Testun yn unig
Emily Cooper

Astudiaethau Achos GO Wales

Arsylwi yn yr Ystafell Ddosbarth - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Ysgol Gynradd Cogan
Prosiect
Arsylwi yn yr Ystafell Ddosbarth
Ymgeisydd
Emily Cooper (Llenyddiaeth Saesneg)

Nod Blas ar Waith

Roedd Emily am gael profiad mewn ysgol gynradd leol gan mai'r unig brofiad oedd ganddi oedd mewn ysgolion uwchradd. Roedd am gael darlun cytbwys o addysgu er mwyn gallu penderfynu ai dyma'r yrfa roedd am ei dilyn.

Canlyniad Blas ar Waith

Mwynhaodd Emily ei hamser yn yr ysgol yn fawr. Roedd y profiad wedi'i helpu i sylweddoli bod addysgu cynradd ac uwchradd yn gwbl wahanol a'i bod am gael mwy o brofiad yn y maes hwn.

“Y tro cyntaf i mi fynd i'r ysgol roedd yr athrawon yn groesawgar, yn gyfeillgar iawn, yn hawdd iawn siarad â nhw ac yn barod i ateb cwestiynau. Fe wnaethon nhw i mi deimlo'n gartrefol o'r cychwyn cyntaf. Cefais brofiad o weithio gydag phlant o oedrannau gwahanol, roedd y plant y des i'w hadnabod yn well yn wych - tynnodd un ohonyn nhw lun hyfryd i mi o'n grŵp darllen.”

“Cefais gyfle i gyflawni tasgau o bob math e.e. cymorth cyffredinol yn yr ystafell ddosbarth, grwpiau darllen, tasgau llythrennedd un i un. Cefais wahoddiad i fynd i Sain Ffagan ar y trip ysgol hefyd - doeddwn i erioed wedi bod yno - roedd yn brofiad cwbl wahanol i weld y plant tu fas i'r ysgol - roeddwn i wedi blino'n lân!”

“Roedd yr ysgol yn barod iawn i ddiolch i mi am fy amser a gwnaethant imi deimlo fy mod i wedi bod yn ddefnyddiol ac yn rhan o'u tîm nhw. Dwi wedi cael amser ardderchog ac wedi cyfarfod â rhai o'r plant mwyaf cŵl erioed - roedden nhw'n wych!”

“Mae'r profiad wedi bod o help i gael darlun cytbwys o addysgu gan mai dim ond profiad uwchradd oedd gen i. Dwi'n sylweddoli ei fod yn gwbl wahanol a nawr dwi am gael mwy o brofiad. Mae'r cyfnod blas ar waith wedi fy helpu i ganolbwyntio ar addysgu fel gyrfa yn y dyfodol.”

“Mae trenfu'r cyfnod blas ar waith wedi bod yn broses hawdd. Mae pawb dwi wedi cyfarfod â nhw yn ystod y broses wedi bod yn gefnogol iawn. Byddwn yn argymell i unrhyw un y dylent gymryd rhan!”

  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: