Testun yn unig
VIP Film Productions - stiwdio animeiddio

Astudiaethau Achos GO Wales

Cynorthwy-ydd Ffilmiau - Y De-ddwyrain

Sefydliad
VIP Film Productions
Prosiect
Cynorthwy-ydd Ffilmiau
Ymgeisydd
Annette Hauser (Astudiaethau ffilm, fideo a theledu)

Nod Blas am Waith

Dysgu am bob agwedd ar gynhyrchu ffilmiau gyda chwmni bach sy'n tyfu'n gyflym.

Canlyniad Blas am Waith

“Bûm ar gyfnod Blas ar Waith GO Wales gyda VIP Film Productions yng Nghasnewydd. Cymerais ran ym mhob agwedd ar gynhyrchu ffilm, o ysgrifennu sgriptiau i olygu'r cynnyrch terfynol. Roedd amrywiaeth y swydd yn ddeniadol iawn, ac nid oedd munud ohono'n ddiflas. Dysgais raglenni newydd fel Storyboard Artist sy'n eich galluogi i greu bwrdd stori ar gyfrifiadur Mac neu Ultra a ddefnyddir i droi'r cefndiroedd sgrin gwyrdd rydym yn gweithio gydag yn stiwdios rhithwir.”

“Roedd deall anghenion cleientiaid yn rhywbeth newydd i mi. Hon oedd fy swydd gyntaf ar ôl y brifysgol, lle'r ydych chi'n gwneud ffilmiau'n fwy at chwaeth eich hunan. Rhoddodd y Blas ar Waith gyfle i mi brofi fy hunan ac rwyf bellach wedi dechrau Lleoliad GO Wales gyda'r un cwmni, ac mae'n edrych yn bur debyg y byddaf yn aros ymlaen i weithio yma wedyn.”

Cafodd Richard Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr, dri o fyfyrwyr ar gynllun Blas ar Waith GO Wales, ac mae'n bwriadu cadw dau ohonynt fel lleoliadau GO Wales.

“Mae Cynllun GO Wales wedi bod yn werthfawr tu hwnt i'n busnes, yn ein cysylltu gyda chyfoeth o dalent sy'n cael ei feithrin trwy'r prifysgolion ardderchog sy'n ymdrin â chynhyrchu ffilm yng Nghymru.”

“Mae'r seilwaith a sefydlwyd gan GO Wales i hyrwyddo a marchnata'r cynllun yn benigamp. Mae'n rhoi cyfle i fentrau bach a chanolig fel ni i gael ceisiadau gan raddedigion o'r radd flaenaf o bob cwr o Gymru sydd eisiau parhau i weithio a byw yn ein gwlad wych a blaengar pan fyddant wedi gadael y Brifysgol.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: