Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Cyfreithiol - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Temple Chambers
Prosiect
Cyfreithiol
Ymgeisydd
Daniel Mansell (Llenyddiaeth Saesneg)

Nod Blas am Waith

Cafodd Daniel Mansell flas ar waith a'r cyfle i gael cipolwg ar waith bargyfreithiwr troseddol.

Canlyniad Blas am Waith

Mae Daniel yn sicr bellach ei fod am fod yn fargyfreithiwr ac mae ar fin dechrau cwrs trosglwyddo i'r gyfraith . Mae'n ddiolchgar bod ganddo brofiad gwaith gwerthfawr wrth iddo ymuno â phroffesiwn mor gystadleuol.

“Yn ystod fy mlas ar waith, roeddwn i'n cysgodi bargyfreithwyr troseddol yn Llys y Goron Casnewydd. Yn ystod yr wythnos gwelais amrywiaeth eang o achosion troseddol; o ddedfrydu i geisiadau am fechnïaeth, yn ogystal â rhan sylweddol o achos niwed corfforol difrifol (GBH). Rhoddodd y profiad gyfle i mi hefyd weld gwaith bargyfreithiwr y tu ôl i'r llenni a gwelais y bargyfreithwyr yn trafod bargeinion pledio gyda'u cleientiaid yn y celloedd, ynghyd â thrafodaethau anffurfiol am achosion yn yr ystafell wisgo.”

“Rhoddodd yr holl brofiad flas i mi ar:”

  • Fywyd bargyfreithiwr troseddol o ddydd i ddydd
  • Yr awyrgylch yn y siambrau
  • Y gwaith paratoi ar gyfer achos
  • Amseroedd aros maith yn y llys

“Mae proffesiwn y gyfraith yn un dirgel, a byddwn yn argymell tymhorau prawf byr, neu unrhyw brofiad gwaith cyfreithiol o ran hynny, fel ffyrdd rhagorol o ganfod mwy am y proffesiwn.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: