Yn ystod haf 2002, darganfuwyd gweddillion llong ganoloesol wrth gloddio ar gyfer adeiladu Canolfan Gelfyddydau newydd ar lan yr afon Wysg yng nghanol Casnewydd.
Mae prosiect i adfer y llong yn mynd rhagddo o hyd. Cwblhaodd Jonathan McQueen sesiwn blas ar waith gyda Chyngor Casnewydd ar brosiect Llong Casnewydd ym maes Archaeoleg Forol. Cwblhaodd y sesiwn dros gyfnod o bum diwrnod.
Trefnwyd y sesiwn gyda help un o ddarlithwyr Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, Nigel Nayling, sy'n Ymgynghorydd Archaeolegol i'r prosiect.
“Trwy weithio ar brosiect Llong Casnewydd, cefais gyfle i ddysgu am bob math o feysydd diddorol, gan gynnwys:”
- Cyflwyniad i raglenni cyfrifiadurol a'r llong
- Glanhau pren y llong
- Cwrs trin â llaw a gweithredu teclyn codi
- Cofnodi
- Gwacáu a glanhau tanciau
“Rhoddodd y profiad unigryw hwn lawer o hyder i mi. Datblygais fy sgiliau archaeoleg forol, sef yr yrfa rydw i'n awyddus i'w dilyn. Rydw i bellach yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent yn Abertawe, sy'n wych.”
Rhoi nod tudalen gyda: