Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Therapi Galwedigaethol - Y De-orllewin

Sefydliad
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru
Prosiect
Therapi Galwedigaethol
Ymgeisydd
Kathryn Cardy (Cynhwysiant Cymdeithasol ac Astudiaethau Addysg)

Nod Blas am Waith

Roedd Kathy Cardy am ennill profiad gwaith fel Therapydd Galwedigaethol mewn ysbyty i'w helpu i benderfynu ai dyma'r dewis gyrfa gorau iddi hi. Cymerodd ran mewn sesiwn blas ar waith am bedwar diwrnod dros gyfnod o fis.

Canlyniad Blas am Waith

Gwnaeth Kathryn gais am le ar gwrs Gradd Meistr mewn therapi galwedigaethol yn sgil ei phrofiad lle cafodd syniad o'r gwahanol agweddau ar waith therapydd.

“Rhan o'r blas ar waith oedd arsylwi ar y gweithdrefnau a wneir mewn amrywiaeth o adrannau therapi galwedigaethol yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Mwynheais y profiad ac roedd yn fuddiol iawn i mi. Anogodd fi i wneud cais am gwrs Gradd Meistr mewn Therapi Galwedigaethol, ac mae'r profiad a gefais wedi fy ngwneud i'n fwy brwdfrydig am y maes hwn.”

“Roedd y staff yn ardderchog ac yn gymwynasgar iawn, yn yr ysbyty ac aelodau tîm GO Wales yn fy ngwasanaeth gyrfaoedd. Roedd yn gyfle gwych ac rwyf yn ddiolchgar tu hwnt. Trueni na allai fod wedi para'n hirach!”

Roedd Sharon Thomas, yr Ysgrifenyddes a Chydgysylltydd Profiad Gwaith, wrth ei bodd yn gallu cyfrannu at benderfyniad Kathryn i ddilyn gyrfa fel therapydd galwedigaethol.

“Roeddwn i eisiau i Kathryn gael cipolwg ar swyddogaethau amrywiol therapydd galwedigaethol fel ei bod hi'n cael blas ar bob maes. Bu'n gweithio ym maes:”

  • Orthopaedig
  • Llawfeddygaeth
  • Gofal adsefydlu
  • Iechyd meddwl dros gyfnod o bedwar diwrnod

“Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr gael rhywfaint o brofiad ymarferol mewn maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw, er mwyn penderfynu ar eu llwybr gyrfa yn y tymor hir.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: