Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Gweinyddu Prosiect - Y Gogledd-orllewin

Sefydliad
Fforwm Masnach Deg Cymru
Prosiect
Gweinyddu Prosiect
Ymgeisydd
Hannah Walk (Llenyddiaeth Saesneg)

Amcan y fforwm yw gwneud Cymru y wlad Fasnach Deg gyntaf. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y materion sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch maent yn eu prynu mewn archfarchnadoedd.

Nod Blas am Waith

Roedd y cyfle i gael Blas ar Waith gyda Masnach Deg Cymru yn gyfle perffaith gan fod diddordeb gan Hannah yn y sefydliad ac roedd yn awyddus i ddysgu mwy am ei waith. Teimlai fod hyblygrwydd y rhaglen Blas ar Waith yn rhoi'r cyfle iddi wneud hyn.

Canlyniad Blas am Waith

Treuliodd un diwrnod yr wythnos am rai misoedd yn y swyddfa ym Mangor a bu'n gwneud amrywiaeth o dasgau megis:

  • ymchwilio
  • cysylltu â chwmnïau
  • dylunio llyfrynnau posteri a thystysgrifau
  • mynychu cyfarfod
  • trefnu digwyddiadau

Dywedodd Hannah:

“Mwynheais weithio iddynt yn fawr iawn ac roedd yn brofiad ardderchog! Mwynheais y gwaith ymchwil yn arbennig edrych am gysylltiadau mewn cynghorau neu fusnesau ar y rhyngrwyd a rhoi'r wybodaeth mewn dogfen. Roedd yr ochr greadigol o'r gwaith yn hwyl hefyd, fel dylunio posteri a thystysgrifau. Mwynheais y gwaith dros y ffôn hefyd, yn ffonio aelodau grŵp y Fforwm Masnach Deg i ofyn am wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Masnach Deg a bod yn rhan o bethau - mynychu cyfarfodydd ac ysgrifennu cofnodion.”

“Mae'r cyfle hwn wedi gwneud i mi sylweddoli yr hoffwn weithio o fewn y sector gwirfoddol yn y dyfodol. Mae siarad am beth rwyf wedi gwneud yn ystod y blas ar waith yma wedi gwneud i mi sylweddoli hefyd faint rwyf wedi ennill o'r profiad hwn!”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: