
Cyflogodd MINaero Cyf, cwmni dylunio mewnol ac adeiladu awyrennau, Jiun Horng yn llawn-amser, wedi iddo ddangos galluoedd ardderchog fel Peiriannydd Dylunio yn ystod cyfnod lleoliad gwaith o ddeng wythnos. Trefnodd Jiun, sy'n wreiddiol o Falaysia, gyfnod o leoliad gwaith er mwyn cael profiad o ansawdd o'r diwydiant. Galluogodd y lleoliad i Jiun ddatblygu ei sgiliau mewn maes busnes sy'n ehangu.
“Cefais gyfle i weithio fel Peiriannydd Dylunio. Rhoddodd hyn gyfle i mi ddefnyddio llawer o feddalwedd ddefnyddiol a wellodd fy ngwybodaeth mewn modelu cyfrifiadurol. Roedd rhaid i fi ddysgu nifer o bethau, yn arbennig ym maes Peirianneg Sifil, a dyma beth oedd o fantais fwyaf i mi.”
“Fy nod oedd gallu meistroli MSC Patron a FEMAP, sy'n feddalwedd modelu elfennau penodol. Bellach, rwyf yn gallu defnyddio'r feddalwedd yn hyderus a gwybodaeth ddylunio gwaith dur adeileddol, sydd wedi datblygu fy sgiliau'n sylweddol.”
Cynigiodd MINaero swydd lawn amser i Jiun ar ddiwedd y lleoliad. Mae Terry Pugh, Rheolwr Peirianneg, yn hapus iawn gyda'r canlyniad:
“Mae safon gwaith Jiun wedi bod yn eithriadol o dda. Mae cynllun GO Wales yn annog diwydiannau i ddatblygu peirianwyr israddedig fel Jiun, sy'n fanteisiol tu hwnt i ni. O ganlyniad i'r lleoliad, cafodd Jiun gynnig swydd lawn-amser.”
Bookmark with: