Testun yn unig
Y Diwydiant Awyrofod Ac Amddiffyn

Awyrofod Ac Amddiffyn

Proffiliau Cwmnïau

Airbus Brychdyn
Mae'r gwaith ailddatblygu eang a wnaed ar gyfleuster cynhyrchu Airbus UK ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn cynnwys nifer o adeiladau sy'n cael eu defnyddio i gadw'r cyfarpar angenrheidiol i gynhyrchu adenydd ar gyfer y superjumbo A380. www.airbus.com
Babcock International Group
Cwmni gwasanaethau cymorth sy'n gweithio gyda sefydliadau milwrol a sifil i ddarparu datrysiadau effeithiol i gefnogi gweithrediadau craidd. Mae pum adran weithredu gan y cwmni; amddiffyn, technegol, peirianneg/peiriannau, rhwydweithiau a gwasanaethau rheilffordd. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Fyddin. Mae ei weithgareddau craidd yn cynnwys hyfforddi personél milwrol, adnewyddu llongau'r Llynges Frenhinol, cynnal a chadw awyrennau'r Llu Awyr a cherbydau'r Fyddin. www.babcock.co.uk
British Airways Maintenance Cardiff Y Rhws
Yr unig gyfleuster dwy gilfan trwyddedig yn y byd sy'n gallu cynnal a chadw ac atgyweirio awyren Boeing 747 a 777. www.ba.com
British Airways Avionics Engineering BAAE
Gwasanaethu cwsmeriaid cwmnïau hedfan ledled y byd, megis BA, Virgin, Airtours a Cathay Pacific. Er bod BAAE yn parhau i fod â chysylltiadau agos gyda British Airways, mae hefyd yn cael ei weld fel gweithrediad masnachol, annibynnol. www.ba.com
British Airways Interiors
Adnewyddu seddau'r cwsmeriaid a chriw'r awyren. Mae'r cwmni'n trwsio galïau, modiwlau toiled a ffitiadau'r awyren yn ogystal â gosodiadau mewnol. Mae hefyd yn trwsio ac yn ail-orchuddio waliau ochr yr awyren, yn cynhyrchu paneli llawr ac yn darparu pecynnau carpedu llawr awyren. www.ba.com
Contour Premium Seating Cyf Cwmbran
Cynhyrchu amrywiaeth o seddau busnes a dosbarth cyntaf, megis y gwelyau hedfan sydd newydd gael eu lansio. Mae'n cyflenwi'r rhan fwyaf o'r prif gwmnïau hedfan. www.contour.aero
DARA (Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn) Sain Tathan
Cynnal rhaglenni addasu ar awyrennau adenydd sefydlog a throi'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol a'r Fyddin. www.daranet.co.uk
GE Engine Aircraft Engine Services Nantgarw
Y ganolfan cynnal a chadw peiriannau fwyaf yn y byd. Mae'n atgyweirio injans awyrennau Rolls Royce, Pratt & Whitney a GE. Mae hefyd yn archwilio/trwsio injans dwbl awyrennau Boeing 777. www.geae.com
General Dynamics UK Cyf Oakdale
Rhan o'r General Dynamics Corporation. Mae'n darparu datrysiadau mewn cyfathrebu milwrol, rheoli lleoedd brwydro, systemau cyrchoedd a chymwysiadau rheoli gwybodaeth. www.generaldynamics.uk.com
NORDAM Europe Cyf Coed-duon
Trwsio ac archwilio systemau nacelle peiriannau jet a chydrannau peiriannau, gan gynnwys gorchuddion trwyn, hyrddwyr gwrthdro a llewys tyrbinau. www.nordam.com
Hawker Beechcraft Brychdyn
Gwasanaethu awyrennau jet preifat. Mae cyfleusterau ar gael ar y safle ar gyfer gosodiadau hedfan cymhleth ac addasiadau mawr. Defnyddir technoleg profi anninistriol i asesu ffrâm yr awyren a gellir cwblhau diagnosteg peiriannau, yn ogystal â monitro tueddiadau cyflwr injan a chalibrad offerynnau.(Ar 26 Mawrth 2007 gwerthodd Raytheon Company, Raytheon Aircraft Company (RAC) i Hawker Beechcraft Inc). www.hawkerbeechcraft.com
Raytheon Systems Cyf Brychdyn
Cyfrifol am osod system gyrchoedd ar raglen ASTOR newydd y Llu Awyr - y system wyliadwriaeth newydd i wylio maes y gad o'r awyr. www.raytheon.co.uk
Qioptiq Llanelwy
Arbenigo mewn dylunio, datblygu a chynhyrchu modylau a chydrannau ar gyfer y marchnadoedd milwrol, awyrofod, sifil a diwydiannol. www.qioptiq.com

Rhoi nod tudalen gyda: