
Mae Darrian Cars yn cynhyrchu'r Sbortscar Darrian T9/90 sydd wedi cystadlu'n llwyddiannus ers 1985 mewn ralïau ar darmac ac mewn coedwigoedd, ralïau croes, rasys byr, dringo bryniau a rasys cylchdaith.
Roedd Team Duffee Engineering yn chwilio am Beiriannydd Moduro i ddylunio system hongiad newydd ar gyfer cefn y sbortscar Darrian.
Dangosodd Paul lefel dda o allu gydol y lleoliad gwaith a chynorthwyodd i gofnodi mesuriadau cywir ar gyfer y ddwy system hongiad. Meddai Tim Duffee, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
“Prosiect penodol Paul oedd gwneud y paratoadau i ddatblygu system hongiad newydd ar gyfer y car Darrian. Roedd hyn yn cynnwys mesur a chofnodi canlyniadau'r systemau hongiad tu blaen a thu cefn yn gywir.”
“Mae lleoliad Paul wedi rhoi profiad ymarferol iddo ym meysydd dynameg cerbydau, technoleg peiriannau a thrawsyrru. Dangosodd allu ymarferol da wrth gyflawni amrywiaeth o dasgau. Roedd yn frwdfrydig iawn ac yn rhoio'i orau bob amser.”
“Mae gennym agwedd gadarnhaol at israddedigion; maent yn dod â syniadau newydd a brwdfrydedd i'n cwmni.”
Roedd lleoliad Paul yn fodd i'w helpu i gael mwy o wybodaeth a gwella ei sgiliau ar gyfer ei flwyddyn olaf yn y Brifysgol:
“Roedd y lleoliad yn ardderchog. Roedd y cyflogwr yn amyneddgar iawn ac yn hapus i ateb fy nghwestiynau. Roedd y lleoliad yn uniongyrchol berthnasol i'm cwrs gradd, felly bydd yr hyn a ddysgais o gymorth mawr i'm hastudiaethau.”
“Llwyddais i gyflawni fy amcanion. Roeddwn am gymhwyso'r ddamcaniaeth a ddysgais yn y Brifysgol i sefyllfa ymarferol y gweithdy. Gwellais fy ngallu mewn meysydd perthnasol fel technoleg hongiad, a defnyddiais feddalwedd hongiad ar gyfer prosiect penodol.”
“Dysgais lawer am baratoi car ar gyfer rali ac fe gefais brofiad ymarferol o feddalwedd ffabrigo metel a rheoli peiriannau. Rwyf bellach yn deall ac yn gwerthfawrogi faint o waith tîm sydd ei angen i gynnal tîm ralio llwyddiannus, a bydd y profiad o fudd mawr i mi yn y dyfodol.”
Bookmark with: