Testun yn unig
Y Diwydiant Modurol

Moduron

Trosolwg Sector Cymru

Mae gan ddiwydiant moduron Cymru glwstwr cadwyn gyflenwi sefydledig ac amrywiol sy'n cynnig amrywiaeth gyflawn o gymorth technolegol i'r diwydiant moduron, gan gynnwys cylch bywyd cyflawn y cynnyrch, o'r syniad, i'r dylunio a'r profi, i'r cynhyrchu.

Yn ogystal â hyn, Cymru yw'r ail ardal fwyaf lwyddiannus yn y DU o ran sicrhau buddsoddiad uniongyrchol gan gwmnïau moduron o dramor (ar ôl Gorllewin Canolbarth Lloegr).

Mae buddsoddiad modurol yn hanfodol i Gymru. Mae'r sector yn cyflogi tua 25,000 o bobl ac mae'n gwneud cyfraniad hanfodol i'r economi cenedlaethol, gan greu dros £3 biliwn bob blwyddyn.

Cryfderau

Mae'r diwydiant yn cael ei nodweddu gan ryngweithiadau strategol â chwmnïau ledled y byd ac nid yw ei ragolygon yn dibynnu ar economi Cymru.

Mae cryfderau'r diwydiant a chyfleoedd allweddol i'w cael yn y meysydd canlynol:

  • Technoleg Tanwydd Amgen a threnau pŵer datblygedig
  • Cerbydau arbenigol, eu cynllun a'u datblygiad
  • Peirianneg Perfformio a Deunyddiau
  • Electroneg Pŵer a Thelemateg

Cydweithio

Mae Cymru'n elwa ar ei darpariaeth addysg peirianneg ardderchog ac mae'n buddsoddi'n sylweddol yn nhechnoleg y dyfodol gydag arian, adnoddau dynol ac ymchwil blaengar:

Technium
Rhwydwaith deori technolegol sy'n darparu'r wybodaeth berthnasol, y cymorth a'r cyfleusterau ffisegol i helpu busnesau technoleg ifanc yng Nghymru i wireddu eu potensial ar gyfer twf hirdymor.
CETICS
Mae gan y Canolfannau Rhagoriaeth enw da am weithio gyda'r diwydiant, ar brosiectau sy'n amrywio o ddatrys problemau tymor byr i gysylltiadau strategol hirdymor.
Ffynhonnell: www.ibwales.com

Mae 30,000 o fyfyrwyr yn graddio yng Nghymru bob blwyddyn, 2,000 ohonynt mewn peirianneg.

Rhoi nod tudalen gyda: