
Mae Cymru yn gartref i un o'r clystyrau biowyddoniaeth mwyaf sefydledig yn y DU. Gyda'i henw da am ragoriaeth wyddonol ac academaidd, mae dros 250 o gwmnïau wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru ac mae'r sector eisoes yn cyflogi dros 15,000 o bobl.
Mae nifer o'r busnesau dyfeisiadau meddygol a diagnostig wedi'u lleoli ar hyd coridor yr M4 ac yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Mae yna wastad nifer o ffactorau'n cyfrannu at ddatblygiad clwstwr technoleg canolig. Mae cael amgylchedd academaidd ac ymchwil ysgogol o fewn cyrraedd a gweithlu medrus yn hanfodol. Mewn nifer o achosion, mae angen ymrwymiad ar lefel y cyhoedd, a amlygir gan gefnogaeth wedi'i thargedu a seilwaith cadarn.
Er bod yr holl elfennau hyn yn bodoli yng Nghymru, ysbryd o gydgyfeirio, yn fwy na dim byd arall, sy'n gyfrifol am y clwstwr o gwmnïau biowyddoniaeth llwyddiannus. Mae'r clwstwr yng Nghymru'n cynnwys cysylltiadau rhwng sefydliadau o bob maint, o gwmnïau bach lleol i'r cwmnïau biowyddoniaeth amlwladol sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau. Felly, mae ehangder a gallu'r sector yn eang: mae cwmnïau llwyddiannus, fel GE Healthcare, Huntleigh Diagnostics a Bayer, yn cydweithio ochr yn ochr â chwmnïau arbenigol fel Q-Chip a Zoobiotic.
Mae gan glwstwr biowyddoniaeth Cymru bartneriaethau masnachu ac academaidd gyda sefydliadau ledled Ewrop a thu hwnt, lle rhagdybir y bydd y galw am arbenigedd a chynhyrchion biowyddoniaeth Cymru yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y ddegawd nesaf. Mae llwyddiant parhaus y sector wedi dod yn sgil y cysylltiadau rhwng sefydliadau academaidd adnabyddus fel Prifysgol Caerdydd a chwmnïau cynhenid yn y sector. Yn ogystal â hyn, mae gan Gymru sylfaen gref a sefydlog o sgiliau, seilwaith pwrpasol ac ymrwymiad cryf tuag at y sector gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhoi nod tudalen gyda: