Testun yn unig
Y Diwydiant Adeiladu

Adeiladu

Peiriannydd Sifil dan Hyfforddiant - Y De-orllewin

Sefydliad
London and Oriental Homes
Prosiect
Peiriannydd Sifil dan Hyfforddiant
Ymgeisydd
Johnson Yap (Peirianneg Sifil)
Cynllun
Lleoliadau Gwaith GO Wales

Cyflogwyd Johnson Yap gan ddatblygydd eiddo mawreddog arbenigol London & Oriental fel Peiriannydd Sifil dan Hyfforddiant.

Amcan y Prosiect

Roedd Johnson, sy'n wreiddiol o Kuala Lumpur ym Malaysia, eisiau dysgu mwy am y diwylliant gwaith yng Nghymru, a manteisiodd ar y cyfle trwy wneud cyfnod lleoliad gwaith. Hwn oedd profiad cyntaf Johnson o weithio yng Nghymru.

Canlyniad y Prosiect

“Rhoddodd y lleoliad gwaith brofiad da iawn i mi i ddeall y diwydiant. Cefais gyfle i weithio ar ochr beiriannol a gweinyddol y busnes yn y swyddfa. Fy mhrif dasgau oedd:”

  • Goruchwylio gwaith a datblygiad y safle
  • Cynhyrchu dyluniadau CAD
  • Cydgysylltu â Phensaernïaeth
  • Gweinyddiaeth Gyffredinol yn y swyddfa

“Wrth gyflawni'r tasgau hyn cefais brofi diwylliant gwaith y wlad hon; mwyheais gysylltu â chydweithwyr, partneriaid gwaith a chleientiaid, ac fe wnaeth fy sgiliau cyfathrebu wella o ganlyniad. Dysgais fod yn rhan o'r byd gwaith go iawn.”

Roedd Alan Hill, rheolwr safle yn London & Oriental, yn hapus iawn gydag ymrwymiad Johnson i'w leoliad:

“Roedd Johnson yn dda iawn am ddefnyddio pecynnau cyfrifiadurol fel CAD; roedd yn hyblyg ac roedd ganddo agwedd gadarnhaol dros ben. Roedd yn weithiwr caled a chydwybodol, yn aml yn gweithio'n hwyr os oedd angen.”

“Rydyn ni'n credu bod y cynllun yn ardderchog. Mae'n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr fel Johnson, yn rhoi cipolwg o'r busnes i fyfyrwyr ac yn pontio'r bwlch rhwng amgylchedd academaidd a gwaith, yn achos mentrau bach a chanolig yn arbennig.”

Rhoi nod tudalen gyda: