Adeiladu
Proffiliau Cwmnïau
- David McLean
- Busnes contractio preswyl, datblygu a dylunio annibynnol mawr yng Nglannau Dyfrdwy. Mae'r busnes contractio'n cyflogi 300 o bobl broffesiynol, sy'n darparu prosiectau gwerth £150 miliwn ar hyn o bryd.
- Watkin Jones Group
- Cwmni adeiladu sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau adeiladu, o adeiladau diwydiannol, masnachol a phreswyl i ganolfannau chwaraeon a hamdden, gwestai ac unedau iechyd. Wedi ei leoli'n bennaf yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
- Costain
- Grŵp peirianneg ac adeiladu rhyngwladol yw Costain ac un o'r prif gwmnïau yn y gwaith o adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Mae'r prosiectau'n ymwneud ag amrywiaeth o feysydd, o osodiadau morol, olew, nwy a niwclear i gyfleusterau ffordd, rheilffordd, addysg ac iechyd. Mae gan Costain raglen datblygu graddedigion sy'n cynnwys ardystiadau gan bob corff perthnasol.
- Westbury/Persimmon
- Yn 2006, daeth Westbury yn rhan o Persimmon, gan ei wneud yr adeiladwr tai mwyaf yn y DU. Mae Persimmon yn cyflogi 5,000 o staff ledled y DU ac mae ei ddatblygiadau'n cynnwys y sector tai preifat a chyhoeddus.
- Redrow CCC
- Datblygwyr eiddo preswyl a masnachol, sy'n cynnwys 13 cwmni rhanbarthol sy'n cyflogi 1,400 o staff ledled Lloegr, Cymru a'r Alban. Mae Redrow yn rheoli dros 100 o ddatblygiadau ar hyn o bryd, gan gynnwys tai cyntaf fforddiadwy a phrosiectau adfywio.
- Macob Holdings Cyf
- Cyflogi 500 o staff ac mae ganddo drosiant blynyddol o £50 miliwn. Gyda'i bencadlys yng Nghaerdydd, mae Macob yn gwmni Cymreig sy'n canolbwyntio ei brif brosiectau ar Gaerdydd ac ardal de Cymru. Mae Macob yn darparu galluoedd datblygu ac adeiladu integredig, gan gynnwys gwaith tir, codi sgaffaldau, cynnal a chadw, datblygu, peirianneg sifil a hyfforddiant. Mae'n gweithio o fewn y sectorau preswyl, masnachol, diwydiannol a manwerthu.
- Fifehead CCC
- Mae grŵp cwmnïau Fifehead yn gweithredu ar draws yr holl amrywiaeth o weithgareddau datblygu ac adeiladu ym mhob sector. Wingwest yw cangen ddatblygu Fifeheads a Stradform yw'r gangen adeiladu. Mae Stradform de Cymru'n hysbysebu swyddi ym maes rheoli prosiect a thirfesur yn gyson.
- Kingspan Cyf
- Mae Kingspan yn ymdrin â datrysiadau adeiladu a dylunio mewn ffordd integredig. Gan weithredu ar lefel Rhyngwladol, mae ganddynt weithrediadau cynhyrchu a dosbarthu ledled Ewrop, y Dwyrain Pell a'r Unol Daleithiau. Mae Kingspan a'i gwmnïau cysylltiedig yn rhedeg rhaglenni datblygu graddedigion i rai sydd newydd raddio mewn busnes, cyllid, TG, peirianneg a gwyddoniaeth.
- Rowecord Holdings Cyf
- Wedi ei leoli yng Nghasnewydd, mae Rowecord yn darparu datrysiadau dur adeileddol ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau: adeiladau masnachol a phreswyl, stadia chwaraeon, pontydd, ffatrïoedd prosesu ac adeiladau arbennig. Trosiant blynyddol dros £40 miliwn.
Rhoi nod tudalen gyda: