
Prosiect ynni cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe yw Awel Aman Tawe.
Roedd y prosiect yn chwilio am rywun hyddysg ym maes arbed ynni a chynaliadwyedd i hyrwyddo egwyddorion ynni adnewyddadwy a'r cymorth sydd ar gael.
Mae'r lleoliad gwaith wedi helpu Craig i sylweddoli ei fod eisiau dilyn gyrfa yn y sector amgylchedd/elusennau. Roedd y cwmni wedi cael unigolyn brwdfrydig a medrus oedd wedi cyflawni pob amcan a osodwyd.
“Roedd fy ngwaith gydag Awel Aman Tawe yn ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygiadau ffermydd gwynt. Roedd yn cynnwys ymchwilio trwy ddeunyddiau perthnasol, cynnal ffeil gyswllt ymgyngoreion, a defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i gynhyrchu cyflwyniadau gweledol o ffermydd gwynt.”
“Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad gwych. Cefais bob anogaeth i gyflawni tasgau heriol, fel:
- Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol arbenigol
- Cyfrifoldeb dros waith prosiect fel ffeil gyswllt ymgyngoreion
- Creu cyflwyniad proffesiynol, gweledol, o'r datblygiadau ffermydd gwynt.
“Mae'r lleoliad gwaith hwn wedi dylanwadu ar fy ngyrfa yn y dyfodol mewn sawl ffordd. Er mai dim ond hyn a hyn o swyddi sydd yn y sector amgylcheddol/elusennol, a'i bod yn sector mor gystadleuol, fe ddangosodd Awel Aman Tawe fod manteision lu o wneud y gwaith hwn.”
“Gan fod gennyf brofiad gwerthfawr o weithio yn y maes hwn bellach, mae gen i fwy o siawns o gael gwaith. Heb os, byddwn yn argymell lleoliad GO Wales i fyfyrwyr a graddedigion eraill. Mae'r profiad wedi rhoi hwb i'm hyder.”
Bookmark with: