Testun yn unig
Ynni A Chynaliadwyedd

Ynni A Chynaliadwyedd

Proffiliau Cwmnïau

Chevron UK
Perchnogion cyfleuster Purfa Olew Penfro yn y gorllewin. Mae'n un o'r rhai mwyaf o'i bath yn y DU, a phrif allbwn y cyfleuster yw diesel, cerosin, tanwydd jet, olew tanwydd a deunydd crai petrocemegol nwy petrolewm hylifedig.
Elf Oil UK
Un o ddwy burfa yng Nghymru, mae Elf Oil UK a Murco Petroleum yn berchen ar gyfleuster Aberdaugleddau.
Nwy Prydain
Gweithredwr mwyaf Cymru yn y sector cyflenwi ynni (at y cwsmer) a'i brif weithgareddau yw gosod a chynnal systemau gwres canolog. Mae gan Nwy Prydain ganolfan gyswllt fawr yng Nghaerdydd.
Y Grid Cenedlaethol
Y cyfleustod rhwydwaith sy'n berchen ar ac yn gweithredu'r rhwydwaith trosglwyddo trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr, a phrif system drawsgludo nwy naturiol y DU (Transco yn flaenorol). Mae gwaith ehangach y cwmni yn cynnwys Seilwaith Rhwydwaith Di-wifr, mesur, cydgysylltwyr ac eiddo.
Dwr Cymru Welsh Water
Yn perthyn i gwmni di-elw Glas Cymru Cyfyngedig, Dŵr Cymru yw'r chweched mwyaf o'r deg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig yn y DU. Mae Dŵr Cymru yn dosbarthu dŵr ac yn darparu gwasanaethau dŵr gwastraff i 1.2 miliwn o gwsmeriaid cartref a 100,000 o gwsmeriaid busnes yng Nghymru.
Wales & West Utilities
Busnes dosbarthu nwy rheoledig gyda phibellau nwy wedi'u lleoli yng Nghymru a de-orllewin Lloegr. Wedi'i leoli yng Nghasnewydd, prif swyddogaeth WWU, ar ran ‘cyflenwyr nwy', yw cludo nwy i fesuryddion cartrefi a busnesau o ogledd Cymru i Gernyw. Mae dalgylch WWU yn cynnwys chweched ran o'r DU a phoblogaeth o 7.4 miliwn.
First Hydro Co
Un o gynhyrchwyr trydan mwyaf y DU, yn gyfrifol am reoli a gweithredu'r gorsafoedd sy'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni hydro-electrig yn Ninorwig (Llanberis) a Ffestiniog yn ardal Eryri. Mae First Hydro yn perthyn i IPM Eagle LLP, menter ar y cyd rhwng International Power Ccc a Mitsui & Co. Cyf.
Western Power Distribution (De Cymru) Ccc
WPD yw'r cwmni dosbarthu trydan ar gyfer de a gorllewin Cymru a de-orllewin Lloegr. Mae'n dosbarthu trydan i 2.5 miliwn o gwsmeriaid ac wedi'i leoli ym Mryste.
United Utilities Operational services Cyf
Wedi'i leoli yng ngogledd Lloegr, mae UUOP yn rheoli seilwaith cyfleustod yn cynnwys dŵr, dŵr gwastraff, trydan a nwy. Mae ganddyn nhw 30 safle ledled y DU yn cynnwys contractau i reoli dŵr a dŵr gwastraff yng Nghymru. Mae United Utilities yn aelod o'r grŵp FTSE 100 o gwmnïau rhestredig blaenllaw y DU, ac yn cyflogi dros 8,000 o bobl yn ei weithgareddau cyfleustod craidd.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Mae'r Asiantaeth yn rhan o reolydd amgylcheddol mwyaf pwerus Ewrop. Mae'n rhan o'r Asiantaeth yr Amgylchedd corfforaethol ar gyfer Cymru a Lloegr yn ogystal â bod yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, gan dderbyn llawer o'i arian gan y Cynulliad. Cyfrifoldebau craidd yr Asiantaeth yng Nghymru yw rheoleiddio amgylcheddol a llygredd; rheoli pysgodfeydd, afonydd a dyfrffyrdd; amddiffyn rhag llifogydd a monitro gwastraff ac ailgylchu. Mae pencadlys yr Asiantaeth yng Nghaerdydd ac yn cyflogi 500 o staff, mae yna hefyd 3 pencadlys rhanbarthol ar gyfer y de-ddwyrain (Caerdydd), y gorllewin (Abertawe) a'r gogledd (Bangor).

Rhoi nod tudalen gyda: