Testun yn unig
Y Diwydiant Gwasanaethau Ariannol

Gwasanaethau Ariannol

Proffiliau Cwmnïau

Black Horse Finance
Darparwyr cyllid manwerthu, personol, cerbydau, beiciau modur a charafannau. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Lloyds TSB Insurance Services Cyf
Darparwyr yswiriant tŷ, car, carafán, teithio ac anifeiliaid anwes. Wedi ei leoli yng Nghasnewydd.
Firstplus Financial Group Cyf
Cwmni cyllid personol ac yn is-gwmni sy'n eiddo i Barclays Bank CCC. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Dim ond yn benthyg i berchnogion tai ledled y DU.
Composite Legal Expenses
Darparwyr yswiriant treuliau, sy'n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau rhagdaledig ac wedi digwyddiad i farchnadoedd cyfreithiol, broceri yswiriant a chwmnïau. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
HBOS
Mae'r grŵp yn darparu gwasanaethau bancio manwerthu, busnes a chorfforaethol, a gwasanaethau yswiriant a buddsoddi ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Lloyds TSB
Cynnig amrywiaeth o gynnyrch ariannol - bancio, morgeisi, yswiriant car, yswiriant bywyd, gwasanaethau rheoli cronfeydd, cynnyrch buddsoddi a phensiynau Scottish Widows.
HSBC
Mae HSBC yn darparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau ariannol - gwasanaethau ariannol personol, bancio masnachol, corfforaethol, banciau a marchnadoedd buddsoddi, bancio preifat a gweithgareddau eraill.
Zurich
Darparwr gwasanaethau ariannol yswiriant yw Zurich Financial Services Group (Zurich). Mae'n darparu gwasanaethau yswiriant, buddsoddi, diogelu a phensiynau i unigolion, busnesau bach a rhyngwladol.
Legal & General
Buddsoddiadau, yswiriant bywyd, yswiriant cartref a phensiynau. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Admiral Insurance
Cwmni mawr sy'n darparu yswiriant cerbydau. Safleoedd yn Abertawe a Chaerdydd.
Cymdeithas Adeiladu'r Principality
Y gymdeithas adeiladu Gymreig fwyaf. Mae'n parhau i fod yn gymdeithas gydfuddiannol, sy'n eiddo i'w haelodau yn hytrach na'i chyfranddalwyr. Mae gan y Principality dros 420,000 o aelodau, 51 cangen, ac mae'n cyflogi dros 600 o staff ledled Cymru a'r Gororau. Mae'n cynnig morgeisi, cynilion a buddsoddiadau. Mae'r pencadlys yng Nghaerdydd gyda changhennau ledled Cymru.
Julian Hodge Bank
Banc annibynnol sy'n darparu gwasanaethau cynilo, rhyddhau ecwiti, yswiriant personol, cyfrifon busnes, benthyg masnachol ac yswiriant masnachol. Pencadlys yng Nghaerdydd.
Thomas Carroll
Yswiriant, rheoli risg a chyngor ariannol annibynnol. Gwasanaethau cyfraith iechyd, diogelwch a chyflogaeth hefyd. Wedi ei leoli yng Nghaerffili.
Moneysupermarket.com Financial Group Cyf
Gwasanaeth cymharu prisiau. Wedi ei leoli yng Nglannau Dyfrdwy.
Evans & Reid Investment Co Cyf
Cwmni rheoli portffolio Ecwiti ac Eiddo. Buddsoddi'n uniongyrchol a datblygu asedau eiddo cyfredol a newydd. Wedi ei leoli yng Nghaerdydd.

Rhoi nod tudalen gyda: