Proffiliau Diwydiannau Allweddol
Cyflwyniad
Y Marchnad Lafur Yng Nghymru
Mae llawer o bobl eisiau aros yng Nghymru i ddechrau ar eu gyrfa ar ôl astudio yma. Ysgrifennwyd y tudalennau hyn i roi syniad o economi Cymru i'r sawl sy'n ei ddarllen ynghyd ag amlinelliad o rai o'r prif sectorau gwaith.
Trosolwg Cymru
- Mae Cymru'n rhan annatod o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mae Economi Cymru'n seiliedig ar batrwm menter rydd a'r gyfundrefn fasnach rydd.
- Mae gan Gymru boblogaeth o tua 2.9 miliwn o bobl, gyda'r prif grynoadau yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Y ddinas fwyaf yng Nghymru yw'r brifddinas, Caerdydd, gydag Abertawe, Casnewydd a Wrecsam yn brif ganolfannau dinesig; dyma lle mae'r rhan fwyaf o gyfleoedd yn tueddu igodi.
- Mae economi Cymru'n amrywiol. Mae'n cynnwys technolegau arloesol ym meysydd electroneg a TG, gweithgynhyrchu, peirianneg, telathrebu, y cyfryngau, hamdden, twristiaeth ac amaethyddiaeth. Mae ei threftadaeth o arloesedd a chreadigrwydd yn golygu bod nifer o gwmnïau blaenllaw'n ffynnu yng Nghymru erbyn hyn. Mae gan Gymru un o'r seilweithiau busnes mwyaf datblygedig yn Ewrop.
- Mae Cymru'r 21ain Ganrif wedi datblygu'n economi datblygedig yn dechnegol gyda diwydiannau newydd allweddol sy'n canolbwyntio ar electroneg datblygedig, awyrofod, peirianneg a thelathrebu. Gall Cymru ymffrostio mewn rhai o'r cyfraddau cynhyrchiant gweithgynhyrchu uchaf yn y DU ac mae hefyd yn torri tir newydd ym maes efusnes mewn amgylchedd sydd â'r costau sefydlu isaf yn y DU. O ganlyniad, mae 4 o'r 6 gweithgynhyrchwr electroneg mwyaf yn y byd wedi ymsefydlu yma.
- Yn ôl y sefydliad Gwasanaethau Busnesau Bach, mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl; ac mae mwyafrif y busnesau hyn yn dod o dan y categori micro-sefydliadau h.y. busnesau'n cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr ohonynt, nid busnesau bach a chanolig yw'r prif gyflogwr.
- Y Sector Cyhoeddus yw'r prif gyflogwr ledled Cymru.
- Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae dros 1,500 o gwmnïau wedi buddsoddi tua £13 biliwn yng Nghymru, ac o'r herwydd, mae Cymru bellach yn gartref i nifer sylweddol o gwmnïau masnachol a gweithgynhyrchu mwy.
- Mae Cymru wedi symud i ffwrdd oddi wrth y diwydiannau gweithgynhyrchu a chloddio trwm a ddylanwadodd ar ei gorffennol ac mae wedi ymafael â thechnoleg a'r dyfodol. Mae'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y pyllau glo a gweithfeydd dur wedi hen chwythu'i phlwc.
- Un o'r cyflogwyr allweddol yn y de erbyn hyn yw'r diwydiannau cyfathrebu a'r diwydiannau gwasanaeth cysylltiedig. Mae'r rhain yn cynnwys enwau byd-eang fel BT, Vodafone, T-Mobile ac NTL, sydd oll â swyddfeydd a chanolfannau galw yng Nghymru. Mae cwmnïau uwchdechnoleg ac opto-electronig (yn cynhyrchu byrddau waffer hanner-dargludo a thechnoleg ffibr-optig) yn ffynnu yng Nghymru ac yn cyflogi dros 30% o weithlu'r DU yn y sector hwn. Mae cwmnïau awyrofod a biotechnoleg hefyd yn ehangu. Mae 170 o gwmnïau gofal iechyd bellach wedi buddsoddi yng Nghymru ac yn cyflogi dros 13,000 o staff.
- Mae Cymru hefyd yn adlewyrchu'r twf byd-eang eang yn y diwydiant cyfryngau. Mae gan Gymru rai o'r cyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol gorau o bob math yn y DU. Mae'r rhain yn cynnwys argraffu a darlledu, ffilm a theledu a cherddoriaeth ac adloniant. Ceir hefyd ddiwydiant gwasanaeth proffesiynol ffyniannus gan gynnwys asiantaethau newyddion, cwmnïau ymgynghori cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau â'r cyfryngau a chwmnïau cynhyrchu sy'n gallu diwallu holl anghenion cyfryngau busnesau. Mae Cymru eisoes yn paratoi'r ffordd ar gyfer cam nesaf y diwydiant teledu gyda S4C digidol ac un o'r rhwydweithiau cebl digidol mwyaf datblygedig ac eang yn y DU.
- Yn danwydd i'r twf hwn yn y cyfryngau yng Nghymru mae Prifysgolion Cymru, sydd ag enw da yn rhyngwladol am ddarparu rhai o'r graddau gorau ym mhob agwedd ar y cyfryngau.
- Mae amaethyddiaeth a phrosesu bwyd hefyd yn sector diwydiannol allweddol yng Nghymru. Mae tua 80% o Gymru'n dir amaeth o hyd gyda rhyw 30,000 o ffermydd, y mwyafrif ohonynt yn ddibynnol ar gynhyrchu da byw. Dan arweiniad y Cynulliad Cenedlaethol, sefydlwyd y bartneriaeth Bwyd-Amaeth i helpu'r diwydiant i fod yn fwy effeithlon a gwneud mwy o elw. Mae'r Sioe Fawr flynyddol yn Llanelwedd yn llwyfan i'r diwydiant. Yn y sector prosesu bwyd, mae saith o'r deg proseswr bwyd mwyaf yn y DU yn gweithredu yng Nghymru. Cwmnïau amlwladol yw'r rhain fel Unilever a Kellogs.
- Mae Twristiaeth a Hamdden hefyd yn ddiwydiannau allweddol erbyn hyn, gyda phoblogrwydd Cymru ymysg twristiaid yn adlewyrchu datblygiad cyflym y diwydiant twristiaeth ledled y DU. Amcangyfrifir bod y sector yn cyflogi 100,000 o bobl ac yn cyfrannu £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Rhoi nod tudalen gyda: