Testun yn unig
Gofal Cymdeithasol

Gofal Cymdeithasol

Trosolwg Sector Cymru

Mae'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru'n cynnwys cyflogwyr cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymhleth a gwahanol. Cynlluniwyd y gwasanaethau er mwyn galluogi rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas i fyw mor annibynnol ac mor ddiogel â phosibl. Mae yna dros 100,000 o bobl ar y tro yn cael cymorth gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol yn eu cartrefi eu hunain, mewn sefydliadau dydd ac mewn cartrefi preswyl a nyrsio. Mae ansawdd ac atebolrwydd y gwasanaeth a ddarperir yn dibynnu'n llwyr ar ansawdd, digonedd a sefydlogrwydd y gweithlu.

Ar hyn o bryd, mae tua 70,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda mwy na 50% ohonynt yn cael eu cyflogi gan gyflogwyr preifat. Mae 80% o weithwyr yn y sector yn fenywod ac mae 62% o'r gweithlu gofal cymdeithasol dros 35 mlwydd oed.

Ffeithiau Sydyn

  • Mae'r 70,000 sy'n gweithio o fewn gofal cymdeithasol (yn llawn-amser ac yn rhan-amser) yn cynrychioli 4% o gyfanswm gweithlu Cymru, gyda nifer tebyg yn gweithio yn y sector busnes a chyllid.
  • Mae'r sector gofal cymdeithasol yn gymhleth. Mae'n cynnwys tri is-sector - y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau mewn amrywiaeth o sefydliadau cartref, cymunedol a phreswyl, i amrywiaeth eang o gleientiaid.
  • Mae'r cydbwysedd rhwng darpariaeth gyhoeddus ac annibynnol yn amrywio ar draws y meysydd gwasanaeth a ledled lleoliadau. Mae'r amrywiaeth hwn yn cael ei lywio'n bennaf gan strategaethau comisiynu a gwasanaeth yr awdurdodau lleol, sy'n cael eu datblygu o fewn fframweithiau polisi cenedlaethol.
  • Mae'r prif feysydd sgiliau galwedigaethol yn cynnwys gwaith cymdeithasol a sgiliau gofalu, gyda thros chwarter o weithwyr y sector yn gweithio fel cynorthwywyr gofal.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau a ddarperir yn cael eu hariannu gan y cyhoedd, ond mae'r sector annibynnol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Amcangyfrifir bod hanner y gweithlu'n gweithio yn y sector preifat bellach.
  • Lleolir y rhan fwyaf o'r swyddi gofal cymdeithasol yn ne ddwyrain Cymru. Cynyddodd swyddi yn y sector yng ngogledd Cymru 30% rhwng 1990 a 2000.
  • Ni ellir rhagweld beth fydd y tueddiadau ar draws yr is-sectorau ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd rhai'n dirywio tra disgwylir i eraill gynyddu, er enghraifft, darparu gwasanaethau gofal canolraddol ac adsefydlu. Fodd bynnag, disgwylir i'r sector gofal cymdeithasol gynyddu ar y cyfan, a hynny ar gyfradd gyflymach na gweddill economi Cymru.

Rhoi nod tudalen gyda: