Testun yn unig
Technoleg

Technoleg

Proffiliau Cwmnïau

Alcatel-Lucent
Cwmni telathrebu byd-eang. Gyda 79,000 o staff dros y byd a chyfranddaliadau ar farchnad stoc Efrog Newydd, mae Alcatel yn darparu atebion cyfathrebu i sefydliadau a llywodraethau ledled y byd. Mae atebion yn cynnwys cyfathrebu llais, data a fideo, band eang ar ffonau symudol, technolegau, cymwysiadau a gwasanaethau eiddo deallus a chludo. Mae safle Alcatel ger Casnewydd yn cyflogi 550 o staff.
Mitel Networks Cyf
Darparwr atebion a gwasanaethau cyfathrebu i fentrau a busnesau bach ledled y byd. Mae'r cwmni o'r UDA yn canolbwyntio ar lwyfannau cyfathrebu, rheoli mentrau, ffonau busnes (eiddo deallus) a gwasanaethau di-wifr, symudedd a chynadledda i amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae gan Mitel safle ger Casnewydd sy'n cyflogi 560 o staff.
International Rectifier Newport Cyf
Mae IR Newport yn canolbwyntio ar y marchnadoedd analog ac arwyddion cymysg ac ar hyn o bryd mae'n gweithredu prosesau CMOS a PowerMOSFET yn ei safle yn y de. Mae gan IR Newport mwy na 100 o beirianwyr profiadol iawn ar y safle. Datblygir y genhedlaeth ddiweddaraf o gynnyrch cylched integredig mewnol ac arwahanol yno.
IQE ccc
Cyflenwr epiwafer masnachol. Ffurfiwyd IQE ccc ym mis Mai 1999 drwy uno dwy ffowndri wafer flaenllaw, gyda'r ddwy wedi profi eu hunain yn y gorffennol yn cyflenwi deunyddiau electronig a optoelectronig o ansawdd uchel wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio llwyfannau MBE a MOCVD. Mae IQE Plc wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac yn cyflogi 230 o staff.
Thomson Broadband UK Cyf
Darparwr cynnyrch a chymwysiadau yn cynnwys Protocol Llais dros y Rhyngrwyd a rheoli o bell. Mae Thomson nawr yn darparu porth cartref DSL di-wifr i BT. Mae Thomson wedi'i leoli ym Mhont-y-clun ac yn cyflogi 220.
Woodhead
Cwmni cysylltedd a Chyfathrebu Diwydiannol sy'n cyflenwi cardiau rhyngwyneb rhwydwaith i gyfrifiaduron personol, modiwlau PLC NI, meddalwedd, offerynnau diagnostig, cyfryngau ffisegol, pyrth a switshis gweithredol i fusnesau ledled y byd. Mae safle Woodhead yng Nglynebwy yn cyflogi 250 o staff.
Orion Electric (DU) Cyf
Rhan o'r grŵp electroneg Orion Siapaneaidd. Mae'r safle ym Mhort Talbot yn cynhyrchu setiau teledu ar gyfer marchnad y DU ac Ewrop, gan gyflogi gweithlu o 260. Ledled y byd mae Orion yn cyflogi 11,000 yn ei waith cynllunio, cynllunio datblygu, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch clyweledol a TG.
Harman/Becker Automotive Systems
Rhan o Harman International Industries, sy'n cynhyrchu cynnyrch clywedol ac electroneg ar gyfer defnydd modurol, defnyddwyr a phroffesiynol. Mae Harman yn berchen ar frandiau eraill yn y diwydiant hwn yn cynnwys Digitech, Lexicon, GNX a Infinity Systems. Mae gan Harman safle ym Mhen-y-bont sy'n cyflogi 800 o staff.
Biotrace International ccc
Mae Biotrace yn gwmni 3M sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi cynnyrch microbiolegol diwydiannol, gan ddarparu i gwsmeriaid yn y diwydiannau bwyd ac amgylcheddol, fferyllol, gofal personol a cholur ac amddiffyn. Mae pencadlys rhyngwladol Biotrace wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ac yn cyflogi 350 o staff.
Biomet (DU) Cyf - Atebion Orthopedig
Mae'r cwmni'n arbenigo mewn datblygu, cynhyrchu a marchnata cynnyrch i drin afiechydon esgyrn a meinwe feddal, yn cynnwys cymalau newydd, trawma, asgwrn cefn, systemau smentio a bioddeunyddiau. Mae Biomet yn gwmni byd-eang o'r Iseldiroedd sydd â safle ym Mhen-y-bont yn cyflogi 600 o staff.

Rhoi nod tudalen gyda: