Rydych eisoes wedi rhoi eich hun ar y llwybr cywir i sicrhau gyrfa lwyddiannus o fewn y diwydiant o’ch dewis drwy ddewis lleoliad GO Wales; mae’r cyfleoedd hyn wedi cynorthwyo myfyrwyr a graddedigion i gael gyrfaoedd cyffrous a chynhyrchiol a phrofwyd eu bod yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy.
Mae profiad gwaith ar lefel raddedig yn ffordd ardderchog o roi hygrededd ychwanegol i’ch CV a’ch rhoi ar ben y ffordd. Mae'r rheiny sy'n recriwtio'n chwilio am ymgeiswyr cytbwys sy’n gallu mynegi a chymhwyso’r sgiliau maent wedi’u datblygu o’u gradd, eu profiad gwaith a gweithgareddau allgyrsiol. Canfu astudiaeth ddiweddar o fwy na 10,000 o hysbysebion recriwtio mai’r deg rhinwedd yr oedd cwmnïau sy'n recriwtio graddedigion yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd:
Drwy gydol eich lleoliad byddwch yn datblygu llawer o’r sgiliau hyn, ond ar gyfer y sgiliau hynny nad ydych o bosibl yn meddu arnynt, bydd y Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol yn rhoi’r cyfle i chi weithio ar eich mannau gwan ac yn eich galluogi i ddod yn unigolyn mwy hyfedr o fewn y gweithlu. Bydd GO Wales yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i chi yn ystod eich lleoliad a byddant bob amser wrth law i gynnig adborth pan fydd ei angen arnoch.
Bydd cael profiad o leoedd gwaith gwahanol yn eich helpu i benderfynu pa lwybr gyrfa sydd orau i chi. Gallai eich lleoliad fod o fewn BBaCh, Llywodraeth leol a chanolog neu gorfforaeth fawr. Byddwch yn dod i gysylltiad â mwy o gyfrifoldeb ac amrywiaeth nag mewn unrhyw fusnes arall a bydd hyn yn ehangu eich gwybodaeth am y diwydiant cyfan ac yn eich gwneud yn unigolyn sy’n fwy ymwybodol o fusnes. Byddwch yn dysgu i werthfawrogi’r rhyngweithio rhwng yr holl swyddogaethau amrywiol mewn cwmni a gweld effaith eich gweithredoedd.
Bydd profiad gwaith yn eich helpu i ennill hyder yn eich galluoedd, sy’n rhinwedd arall y mae cwmnïau sy'n recriwtio graddedigion yn ei gwerthfawrogi. Efallai hefyd y byddwch yn cwrdd â phobl yn ystod eich lleoliad profiad gwaith a allai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol, naill ai fel canolwyr, i droi atynt i’ch cyfeirio os bydd angen cyngor arnoch neu i dynnu eich sylw at swyddi gwag o fewn y sefydliad a allai fod o ddiddordeb i chi yn y dyfodol.
Bydd y Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol yn achredu eich profiad gwaith ac yn darparu cydnabyddiaeth ffurfiol o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u hennill drwy’ch profiad gwaith. Mae’n eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich datblygiad proffesiynol drwy ddarparu fframwaith i ddatblygu eich sgiliau allweddol sy’n ymwneud â gwaith y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Yn ogystal â derbyn Tystysgrif City & Guilds gydnabyddedig, mae’r Dyfarniad yn ddefnyddiol gan ei fod yn eich grymuso i gymryd perchnogaeth o’ch hunanddatblygiad eich hun ac yn amlygu eich sgiliau cyflogadwyedd. Bydd cwblhau’r Dyfarniad yn eich helpu i ddysgu a phennu eich amcanion eich hun yn y gweithle, gwerthuso eich profiadau a mynegi’r manteision a enillir o leoliad GO Wales a sut y gallant roi gwerth ychwanegol i gyflogwr yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, cewch eich annog i arfarnu eich perfformiadau a’ch sgiliau’n feirniadol, gan geisio pennu nodau ac amcanion newydd i chi eich hun fel y gallwch ddatblygu eich sgiliau a’ch profiadau’n barhaus.
Er mwyn cyflawni Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol mae angen: