GO Wales

Camau ar gyfer cyfweliad llwyddiannus

  1. Cyn y cyfweliad:
    • Mae paratoi’n hanfodol. Mae’n rhaid i chi adolygu eich cais, y swydd ddisgrifiad a meddwl am atebion i rai cwestiynau cyfweliad cyffredin. Dylech feddwl am gwestiynau perthnasol i’w gofyn i’r cyfwelydd hefyd.
    • Ceisiwch ddysgu mwy am y sefydliad ymlaen llaw:
      • Beth maent yn ei wneud
      • Beth maent neu’n ei werthu?
      • Ble maent wedi’u lleoli?
      • Beth mae’r rôl yn ei chynnwys?
      • Pwy yw eu cwsmeriaid?
    • Treuliwch rywfaint o amser yn meddwl am eich sgiliau, yn rhai sy’n benodol i’ch swydd ac yn drosglwyddadwy a sut y gallwch ddangos y rhain i’r cyfwelydd.
    • Gofynnwch i ffrind neu Gynghorydd Gyrfaoedd gynnal ffug gyfweliad fel y gallwch brofi eich perfformiad ymlaen llaw.
    • Cynlluniwch eich taith a’ch ymddangosiad. Efallai y bydd hyn yn swnio’n amlwg ond mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif. Mae bod yn hwyr a heb wisgo’n briodol yn sicr o olygu eich bod dan anfantais.
  2. Yn y cyfweliad:
    • O’r eiliad y byddwch yn cyrraedd lleoliad y cwmni rydych mewn cyfweliad i bob pwrpas, felly dylech drin pob aelod o staff y byddwch yn dod ar eu traws mewn ffordd broffesiynol a chwrtais.
    • Cwestiynau Cyffredin:
      • Mae llawer o lyfrau a gwefannau sy’n ymroddedig i gwestiynau cyfweliad a’r ffordd orau o’u hateb. Dyma drosolwg cryno.
      • Cwestiynau cyffredinol, agored megis ‘Dwedwch wrthyf amdanoch eich hun’: Mae hyn yn gyfle gwych i amlygu pethau o’ch dewis chi (ac i hepgor y rheiny nad ydych am eu trafod). Gallwch ddefnyddio hyn i ddweud wrth y cyfwelydd am eich sgiliau, eich profiad a’ch rhinweddau personol a pham eich bod chi’n gweld y rôl yn un ddiddorol. Gallwch ymarfer ateb i’r cwestiwn hwn sy’n para ychydig funudau ac yn eich cyflwyno chi fel yr unigolyn gorau ar gyfer y swydd.
      • Gall cwestiynau sy’n gofyn i chi ddatgelu eich pwyntiau da a drwg fod yn anodd. Enghraifft o hyn fyddai ‘Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?’. Cofiwch rôl y swydd pan fyddwch yn ateb hyn. Nid yw ymateb eich bod yn anhrefnus ond yn siaradus yn mynd i fod yn ddeniadol i gyflogwr.
      • Mae cwestiwn ynglŷn â pham y gwnaethoch gais am y lleoliadyn debygol iawn o godi. Mae cwestiynau cyffredin eraill yn cynnwys rhoi enghraifft o sut y gwnaethoch ymdrin â sefyllfa (megis her yn y gweithle) neu’r hyn y byddech yn ei wneud mewn sefyllfa neu achos penodol (megis pan fo gennych ormod o waith i’w wneud dros gyfnod byr o amser).
      • Unwaith eto, dylech baratoi ac ymarfer atebion i’r cwestiynau hyn a chwestiynau eraill ymlaen llaw.
  3. Ar ddiwedd y cyfweliad
    • Gofyn cwestiynau
      • Meddyliwch am gwestiynau perthnasol i’w gofyn i’r cyfwelydd ymlaen llaw. Gallech ofyn am eu sylfaen cwsmeriaid er enghraifft.
      • Mae’n iawn i ofyn i’r cyfwelydd am syniad pryd y byddwch yn clywed canlyniad y cyfweliad.