Bydd y rhan helaethaf o gyflogwyr am gyfweld ag ymgeiswyr cyn iddynt ddechrau Lleoliad Gwaith. Weithiau, bydd sefydliad sy’n bwriadu cynnal sesiwn Flasu Gwaith yn gofyn i gwrdd ag ymgeisydd ymlaen llaw. Bydd cyflogwr yn edrych ar eich cais ac yna’n gwahodd yr ymgeiswyr gorau i gyfweliad. Mae’r cyfweliadau hyn yr un mor bwysig ag unrhyw rai eraill ac maent yn gofyn am baratoi a chynllunio i sicrhau eich bod yn gwneud yr argraff orau.
Cynhelir cyfweliad wyneb yn wyneb fel arfer (ond hefyd dros y ffôn o bryd i’w gilydd), mewn lleoliad cymharol ffurfiol a seilir y sgwrs sy’n digwydd i raddau helaeth ar y cyfwelydd/cyfwelwyr yn gofyn y cwestiynau ac yn rheoli’r sgwrs. Rydych yno i ateb y cwestiynau a dangos mai chi yw’r unigolyn gorau ar gyfer y swydd.
Mae cyfweliad yn sefyllfa artiffisial lle bydd gennych gyfnod byr o amser i ddangos i’r cyfwelydd bod gennych y sgiliau, profiad a’r cefndir addysgol sydd eu hangen ynghyd â’r sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol gofynnol.
Cofiwch, mae cyfwelydd am i chi wneud yn dda. Nid ydynt am eich dal allan – maent wedi gofyn i chi ddod i’r cyfweliad ac mae eich cais wedi gwneud argraff arnynt. Dyma eich cyfle i ‘ddwyn y maen i’r wal’.