GO Wales

Cyflawni Nodau

Wedi i chi bennu nifer o nodau i weithio tuag atynt bydd angen i chi ganolbwyntio ar y dasg dan sylw. Ffordd allweddol o wneud hyn yw myfyrio.

Beth yw myfyrio?

Mae i fyfyrio lawer o fanteision:

  • Gall myfyrio ar eich profiadau a dysgu ohonynt, gan gynnwys eich camgymeriadau, eich helpu i osgoi gwneud gwallau dro ar ôl tro.
  • Nodi agweddau llwyddiannus ar brofiad a gellid rhoi’r egwyddorion hynny ar waith yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd eraill.
  • Archwilio meddyliau a theimladau, gweithio drwy brofiadau anodd neu boenus, datblygu hunanymwybyddiaeth a throsolygon o’r newydd.
  • Symud o weithrediadau rheolaidd neu ddifeddwl a gwneud penderfyniadau ymwybodol ar ôl ystyried pob agwedd ar sefyllfa.
  • Gwneud cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer.

Cofnod Myfyriol

Yn sail i’r Dyfarniad cyfan mae’r Cofnod Myfyriol; mae’n rhoi cyfle i chi gydnabod eich datblygiad cyffredinol yn rheolaidd, yr hyn sydd wedi’i gyflawni, pa heriau rydych wedi’u goresgyn a pha gamau pellach sydd eu hangen.

Sut ydw i’n myfyrio?

Yr ymagwedd sylfaenol yw eich bod yn disgrifio ‘profiad’, yr hyn a ddigwyddodd a’r amgylchiadau perthnasol ac yna’n cofnodi eich myfyrdod a’i ystyr i chi. Yn ystod eich disgrifiad dylech fyfyrio ar y sgiliau rydych wedi’u defnyddio o’ch gradd. Mae hyn yn ddefnyddiol gan y bydd yn rhoi’r cyfle i chi nodi p’un a oes angen datblygu’r sgiliau hyn ymhellach, ond bydd hefyd yn eich galluogi i weld y cysylltiadau rhwng eich gradd a’ch lleoliad.

Yna dylech drafod y cynnydd a wnaed o ran pob un o’ch nodau. Gallwch drafod hyn gyda’ch cydweithwyr a’ch rheolwr llinell er mwyn eich galluogi i ddefnyddio safbwyntiau pobl eraill a chymryd unrhyw gamau gweithredu pellach er mwyn i chi gyflawni eich nodau.