Pennu Nodau
Pan fyddwch yn dechrau’r Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol gofynnir i chi gwblhau Hunanarchwiliad a Chynllun Datblygiad Proffesiynol. Dyma lle y byddwch yn dadansoddi eich sgiliau, profiad a’ch galluoedd presennol a’u rhoi yng nghyd-destun rôl eich lleoliad ac yna’n pennu nodau ar gyfer cyfnod y lleoliad.
Hunanarchwiliad
Mae’r Hunanarchwiliad yn eich helpu i ganolbwyntio ar ba sgiliau rydych yn meddu arnynt a pha sgiliau mae’r swydd yn gofyn amdanynt gan esbonio’r hyn y byddwch yn ei wneud yn union tra eich bod ar y lleoliad a chan sicrhau eich bod yn fwy ymwybodol o’r busnes a’i weithgareddau.
Cynllun Datblygiad Personol
Bydd eich Hunanarchwiliad yn sail i’ch Cynllun Datblygiad Personol. Yn eich cynllun bydd angen i chi:
- Nodi rhwng 3 a 5 o nodau/amcanion personol ar gyfer eich lleoliad.
- Ceisio peidio â dewis nodau sy’n seiliedig ar wybodaeth yn hytrach na dewis nodau sy’n ymwneud â’ch rhinweddau personol, er enghraifft ‘Hoffwn wella fy nghymhelliant’. Byddwch am fynd â’r hyn roeddech wedi’i ddysgu gyda chi o’ch lleoliad a’i gymhwyso i sefyllfaoedd eraill, dylech wneud eich sgiliau newydd yn drosglwyddadwy.
- Pennu targedau realistig ar gyfer y nodau hyn gan ystyried y math o waith rydych yn ei wneud; yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni; y safonau y mae angen i chi weithio tuag atynt; y terfynau amser dan sylw; problemau a allai godi, ac ati. Ceiswch gofio pennu nodau CAMPUS, h.y. sicrhau eu bod yn Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol.
- Pan fyddwch yn cynllunio eich strategaeth ar gyfer cyflawni pob un o’ch nodau, dylech ystyried yr arddull ddysgu sy’n well gennych.
- Ystyried yr hyn a allai helpu a’r hyn y gallai eich rhwystro o ran cyflawni eich nodau, gall y rhain fod yn gyfyngiadau personol a hefyd pethau nad oes gennych reolaeth drostynt.
- Er mwyn gwybod p’u a ydych wedi cyflawni eich nodau mae’n rhaid i chi allu mesur eich datblygiad a llwyddiant. Sut fyddwch yn asesu eich cynnydd?
Nodau Personol a Disgwyliadau ar gyfer y Lleoliad
O ran meddwl am eich nodau personol a disgwyliadau ar gyfer eich lleoliad dylech feddwl am:
- Yr hyn yr hoffech ei ddysgu (gwybodaeth)
- Sgiliau newydd yr hoffech eu hennill (sgiliau)
- Sut byddech yn hoffi datblygu fel unigolyn (rhinweddau personol)