Testun yn unig

GO Wales

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae prosiect Cyfleoedd i Raddedigion Cymru'n helpu myfyrwyr, graddedigion a busnesau yng Nghymru i weithio gyda'i gilydd er budd pawb. Rheolir y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac fe'i darperir gan y sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae staff y prosiect yn y prifysgolion hyn yn gweithio i helpu busnesau, yn enwedig BBaChau, i gael mynediad i sgiliau uwch ac i helpu myfyrwyr a graddedigion i gael y dechrau gorau posibl i'w gyrfa yng Nghymru

Rhai o'n Gwasanaethau

Lleoliadau Gwaith

Profiad gwaith o safon wedi'i reoli sy'n gysylltiedig â chwblhau prosiect. Gall llawer o BBaChau gael cymhorthdal cyflog i'w helpu i dalu cyflog. Mae'r myfyriwr neu'r myfyriwr graddedig yn cael profiad gwerthfawr ac mae'r busnes yn elwa ar sgiliau ychwanegol sy'n arbed amser ac arian iddo.

Blas ar Waith

Cyfnodau profiad gwaith hyblyg wedi'u trefnu gan wasanaethau gyrfaoedd y Brifysgol yw Blas ar Waith, er mwyn helpu myfyrwyr a graddedigion i gael profiad o yrfa neu ddiwydiant penodol.

Swyddi GO Wales

Yr unig safle recriwtio am ddim Cymru gyfan sy'n targedu graddedigion a chyflogwyr yng Nghymru. Gall cyflogwyr hysbysebu eu swyddi gwag i raddedigion am ddim, gan sicrhau bod yr hysbysebion yn cyrraedd miloedd o raddedigion sy'n chwilio am waith yng Nghymru.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Cyngor a chymorth hyfforddi a datblygu ar gyfer BBaChau gyda staff sy'n raddedigion.

Cyngor ar Weithio yng Nghymru

Mae Cymru'n cynnig bryniau godidog, traethau hardd a chroeso cynnes i'r sawl sydd am weithio yma. Cyngor ymarferol ar chwilio am waith.

Gwybodaeth am y Farchnad Lafur

Dysgu mwy am strwythur a gwaith y farchnad lafur yng Nghymru.

Cysylltu â Ni

Call 0845 225 60 50 or email info@gowales.co.uk for further information.

Am wybodaeth bellach, ffoniwch 0845 225 60 50 neu anfonwch ebost i info@gowales.co.uk.

Rhoi nod tudalen gyda: