Testun yn unig

Gwasanaethau i Fyfrwyr GO Wales

Rydyn ni'n cynnig cyfle i fyfyrwyr prifysgolion Cymru i achub y blaen yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni trwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith o ansawdd sy'n gyfle i ddatblygu sgiliau. Yn ogystal â hyn, mae gennym ni ddetholiad o gefnogaeth, gwybodaeth a chyfarwyddyd datblygu i ategu'r gwasanaethau craidd amrywiol sydd ar gael gan eich gwasanaeth gyrfaoedd.

Lleoliadau Gwaith

Mae Lleoliadau Gwaith GO Wales yn ffordd wych o ychwanegu brofiad o ansawdd at eich CV. Maen nhw'n cynnig gwaith â thal am oddeutu 10 wythnos ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn cwblhau prosiect i gwmni lleol.

Swyddi GO Wales

Mae gan Swyddi GO Wales gronfa ddata gynhwysfawr o'r swyddi diweddaraf gydag amrywiaeth eang o gwmnïau yn y secor preifat a'r sector cyhoeddus, bob un yn chwilio am unigolion â gradd. Ychwanegir swyddi newydd bob dydd. Mae'r gwasanaeth am ddim.

Gwasanaethau Gyrfaoedd

Cyflawnir GO Wales trwy eich Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol lleol, sydd hefyd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Blas Ar Waith

Nod Blas ar Waith GO Wales Work yw'ch cynorthwyo chi i gael blas ar sector busnes neu ddiwydiant penodol. Maent yn gyfnodau i arsylwi ac i enill profiad er mwyn i chi gael gwybodaeth i'ch cynorthwyo i gunllunio gyrfa yn y dyfodol. Ni chewch dâl am eich gwaith gan nad ydych chi'n gweithio i'r sefydliad sy'n eich derbyn.

Rhoi nod tudalen gyda: