Testun yn unig

CV a Ffurflenni Cais

Diben CV a llythyr eglurhaol yw sicrhau eich bod yn cael cyfweliad.

Mae angen i'ch CV fod yn arbennig fel na all cyflogwyr eich anwybyddu.

Sut ydw i'n ysgrifennu CV?

Mae angen i chi addasu eich CV ar gyfer y swydd a'r sefydliad rydych chi'n ymgeisio amdanynt. Darllenwch fanyleb y swydd neu'r unigolyn yn ofalus, a gwnewch waith ymchwil i ddarganfod yr hyn sy'n bwysig i'r cwmni. Dylech greu neu addasu'ch CV i'w gwneud yn eglur mai chi yw'r person delfrydol ar gyfer y swydd.

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Beth am edrych ar y cyngor ar ysgrifennu CV ar wefan eich prifysgol? Am gyngor cyffredinol, mae gan Jobseekers wybodaeth ddefnyddiol.

Gwirio eich CV a'r gwasanaeth e-bost i fyfyrwyr graddedig

Os hoffech i gynghorydd gyrfaoedd wirio eich CV, rydym yn argymell i chi gysylltu â Gwasanaeth Gyrfaoedd eich Prifysgol agosaf, i weld a allwch chi drefnu cwrdd â chynghorwr yno.

Mae gwirio CV yn cynnwys sgwrs rhwng y cynghorydd a'r cleient, ac mae'n haws gwneud hyn wyneb yn wyneb. Felly, nid ydym ni'n cynnig y gwasanaeth hwn fel rhan o'r gwasanaeth Cyfarwyddyd Ebost, ond rydym bob amser yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ysgrifennu CV.

Ffurflenni Cais ar Bapur

Efallai y bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais yn hytrach nag anfon CV. Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau'n ofalus (fel 'defnyddiwch brif lythrennau', 'ysgrifennwch mewn inc du') a pharatowch gopi drafft. Ar ôl i chi orffen eich fersiwn terfynol (wedi'i wirio a'i wirio eto), sicrhewch eich bod yn cadw copi er mwyn ei ddarllen eto cyn eich cyfweliad.

Mae cyngor ar gwblhau ffurflenni cais ar gael yn BBC Radio 1 One Life sy'n cynnwys enghreifftiau o gwestiynau anodd ac yn esbonio sut i fynd i'r afael â nhw.

Ymgeisio Ar-lein

Mae ymgeisio am swydd ar-lein yn fwyfwy cyffredin, a dim ond fel hyn y bydd rhai cyflogwyr yn derbyn ceisiadau. Yn aml iawn, bydd y darllenydd yn chwilio am eiriau allweddol penodol y dylech eu cynnwys, yn enwedig os bydd eich cais yn cael ei sganio. Mae gwybodaeth ddefnyddiol am ymgeisio ar-lein ar gael yn DoctorJob ac ar wefan y BBC.

Llythyrau Eglurhaol

Mae llythyr eglurhaol yn gwahodd y darllenydd i ystyried eich CV.   Mae'n rhoi cyfle i chi ddatgan yn gryno ac yn llawn perswâd pam rydych chi am weithio i'r sefydliad, a denu sylw'r cyflogwr. Mae gwefan y Guardian yn cynnig canllawiau a llythyrau enghreifftiol ac yn ystyried camgymeriadau cyffredin mewn llythyrau eglurhaol. Oni bai y dywedwyd wrthych yn benodol i beidio, ni ddylech byth anfon CV heb lythyr eglurhaol.

Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.

Rhoi nod tudalen gyda: