Mae astudio i gael cymhwyster arall yn rhywbeth sy'n apelio i bobl am nifer o wahanol resymau. Ni ddylai neb feddwl bod astudio ôl-raddedig yn ddewis hawdd, ond gall y cwrs cywir gynyddu eich gwybodaeth academaidd a phroffesiynol, gwella'ch CV, a chynnig tystiolaeth o'ch brwdfrydedd a'ch sgiliau i ddarpar gyflogwyr. Gallai hefyd fod yn hanfodol ar gyfer yr yrfa rydych chi am ei dewis. Fodd bynnag, weithiau, gallai profiad gwaith ymarferol fod yn fwy defnyddiol i chi na chymhwyster ychwanegol, felly mae'n werth cael rhywfaint o gyngor gyrfaoedd wrth ystyried astudiaeth bellach, i sicrhau bod eich amcanion yn realistig.
Mae nifer o ffynonellau cyllid ar gael, ond mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig ac mae'n rhaid i lawer o fyfyrwyr ôl-raddedig ariannu eu hunain, trwy weithio'n rhan-amser yn aml. I ddarganfod os oes unrhyw un o'r cynghorau cyllido'n cefnogi eich cwrs (sy'n golygu y gallech wneud cais am gyllid), siaradwch â'r tiwtor derbyn. Gall Gwasanaethau Gyrfaoedd rhai Prifysgolion roi mynediad i Funder Finder , cronfa ddata y gellir chwilio drwyddi, i chi hefyd.
Mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y rhai sy'n cael eu derbyn ar gwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion). Ar gyfer cyrsiau eraill, mae'n werth chwilio am ddyfarniadau gan gynghorau cyllido, bwrsariaethau, benthyciadau ac elusennau ac ymddiriedolaethau addysgol hefyd. Mae rhai prifysgolion yn cynnig ysgoloriaethau/ysgoloriaethau ymchwil a allai dalu eich ffioedd a rhoi lwfans byw i chi, ac mae gwefan Support4learning yn rhestru ffynonellau cyllid penodol .
Bydd y lle gorau i astudio'n dibynnu ar eich sefyllfa. Os ydych chi'n gallu astudio yn unrhyw le, efallai y byddwch am gymharu cyrsiau a siarad â gwahanol sefydliadau cyn ymgeisio. Efallai mai dim ond ychydig o leoliadau yn y DU sy'n cynnig y cwrs rydych chi wedi ei ddewis. Gall dychwelyd i'r brifysgol lle gwnaethoch chi astudio fel myfyriwr israddedig fod yn ddeniadol, ond gwnewch yn siwr bod y cwrs yn iawn i chi. Mae mynd i brifysgol arall yn rhoi cyfle i chi gyfarfod pobl newydd ac felly ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau. Gallech ystyried sefydliadau eraill yn y DU a thramor, er y gallai aros yn lleol fod o gymorth i gadw eich costau'n is.
Mae mynd dramor i astudio'n mynd yn boblogaidd iawn ac mae'n gyfle i gael blas ar wahanol ddiwylliant ac efallai dysgu iaith newydd. Mae peryglon fodd bynnag - byddwch yn ymwybodol nad yw pob cymhwyster tramor yn cael ei gydnabod yn y DU, ac mae dod o hyd i gyllid yn anoddach. Os ydych chi'n bwriadu astudio dramor - yn yr Unol Daleithiau er enghraifft - mae angen i chi gychwyn y broses ymgeisio tua 18 mis cyn i'r cwrs ddechrau. Mae'n bosib iawn y bydd rhaid i chi allu siarad iaith dramor i astudio yn Ewrop. Mae cannoedd o brifysgolion ledled y byd y gallech eu hystyried ac mae gwybodaeth benodol am wledydd ar gael ar wefan Prospects .
Mae ymgeisio am le fel myfyrwir ôl-raddedig yn y DU yn hawdd iawn. Mae Prospects.ac.uk yn darparu cyfleuster ymgeisio ar-lein am ddim i fyfyrwyr o'r DU a myfyrwyr rhyngwaldol i ymgeisio'n uniongyrchol i'r brifysgol o'u dewis. Mae'n cynnig cyfle i ymgeisio ar-lein am le ar gyrsiau ôl-raddedig a chyrsiau ymchwil mewn amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynyddu'n barhaus. Am restr lawn o sefydliadau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: www.prospects.ac.uk/applyonline
Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.
Rhoi nod tudalen gyda: