Cyn i chi gychwyn chwilio am swydd, mae angen i chi wybod pa swydd rydych chi'n chwilio amdani. Mae dod o hyd i'r swydd rydych chi ei heisiau'n golygu bod yn ymroddgar, ac mae camau penodol y dylech eu hystyried er mwyn llwyddo.
Oeddech chi'n gwybod nad yw 70% o swyddi'n cael eu hysbysebu? Felly, mae'n syniad da ymgeisio i gwmnïau a sefydliadau am swyddi ar hap yn ogystal â swyddi sydd wedi'u hysbysebu. Os ydych chi'n bwriadu gweithio yng Nghymru neu'n fyfyriwr graddedig o Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, gallech ddefnyddio'r wefan GO Wales hon i weld pa gyfleoedd sydd ar gael. Mae gan gylchgrawn Realworld wybodaeth ragorol am ffyrdd o ddod o hyd i'ch swydd ddelfrydol a chyngor perthnasol ar yrfaoedd. Mae cyngor mwy cyffredinol ar gael ar wefan Hobsons Graduate Career Centre site.
Os ydych am lwyddo'n fuan, mae'n rhaid bod yn drefnus iawn ac mae'n anodd gwybod ble i ddechrau.
Eich gwaith cyntaf yw dod o hyd i waith.
Wrth chwilio am swydd, mae angen bod yn ymwybodol o dueddiadau swyddi yn lleol ac yn genedlaethol. Mae gwybodaeth benodol am dueddiadau swyddi yng Nghymru ar gael yn GO Wales. Os ydych chi'n chwilio am fath penodol o waith, gallwch ystyried canolbwyntio'ch ymdrech ar ardal ddaearyddol benodol lle mae prinder o bobl yn y proffesiwn hwnnw. Yn yr un modd, gallai nodi tueddiadau swyddi newid y ffordd rydych chi'n cysylltu â chyflogwyr. Byddwch hefyd yn swnio'n fwy gwybodus wrth drafod gyda'r darpar gyflogwr. Mae rhagor o wybodaeth am dueddiadau cyflogaeth yng Nghymru ar gael yn BigWales hefyd.
Dyma'r dull allweddol o chwilio am swydd yn yr 21ain ganrif a'r un mae pobl yn ei ddeall leiaf!
Nid yw 70% o swyddi'n cael eu hysbysebu o gwbl ac mae angen i chi ddatblygu eich sgiliau rhwydweithio i ddod o hyd iddynt.
Nid ystyr rhwydweithio yw defnyddio rhwydwaith 'cyn-ddisgyblion' neu blagio pobl am swydd neu wybodaeth. Wrth rwydweithio mae angen datblygu cysylltiadau dwy ffordd rhwng pobl.
Felly pa rwydweithiau allwch chi eu datblygu? Peidiwch â diystyru eich rhwydwaith bersonol a chymdeithasol eich hun. Mae rhwydweithio'n cychwyn gyda chi! Gall ffrindiau, teulu, tiwtoriaid a darlithwyr, cynghorwyr gyrfaoedd a chyn-fyfyrwyr fod yn gysylltiadau. Mae amgylchedd prifysgol yn llawn rhwydweithiau posib. Gallwch ddefnyddio'r cysylltiadau yn eich rhwydwaith i ddysgu mwy am y sefydliad rydych chi'n ystyried gwneud cais i ymuno ag ef neu am yr yrfa rydych chi'n bwriadu ei chychwyn. Efallai y gallant roi enwau i chi i gysylltu â phobl, rhoi eich CV i gydweithwyr neu gynnig gwybodaeth a chyngor i'ch cynorthwyo i gyrraedd eich nod gyrfaol.
Mae gwaith tramor yn cynnig profiad i chi o fyw a gweithio mewn diwylliant arall. Mae gwybodaeth am weithio dramor ar gael gan wasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol neu yn eich llyfrgell gyhoeddus leol. Ystyriwch gysylltu â'r llysgenhadaeth neu'r uchel gomisiwn priodol i ddysgu mwy am y wlad rydych chi'n bwriadu gweithio ynddi.
Mae sawl asiantaeth a chyfnodolion sy'n hysbysebu swyddi tramor. Mae Support4Learning yn rhestru sawl gwefan i'w hymchwilio. Mae'r Times Educational Supplement yn hysbysebu swyddi addysgu, a byddai papurau newydd eraill y DU yn ddefnyddiol hefyd.
Mae addysgu iaith yn ddewis poblogaidd ar gyfer gweithio dramor, fel cynorthwyydd iaith Saesneg mewn ysgol er enghraifft. Ymgeisiwch trwy'r Cyngor Prydeinig . Nid oes angen cymhwyster TEFL [Teaching English as a Foreign Language] fel rheol. I ddod o hyd i gyrsiau TEFL, ewch i Europa-pages , neu Dave's internet cafe sydd hefyd yn rhestru manylion am swyddi a gwybodaeth am wledydd.
Mae sefydliadau arbenigol i fyfyrwyr graddedig hefyd fel AIESEC neu IAESTE fydd yn eich galluogi i weithio dramor mewn amrywiaeth eang o feysydd, o swyddi peirianneg a thechnegol i swyddi gweinyddol am gyfnod byr o amser.
Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.
Rhoi nod tudalen gyda: