Testun yn unig

Beth alla i ei wneud gyda fy ngradd?

Os nad ydych yn siwr pa yrfa fyddai'n addas i chi, neu beth i'w wneud nesaf, gallai'r wybodaeth ganlynol fod o gymorth i chi.

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Gwefan yrfaoedd a argymhellir gan wasanaethau gyrfaoedd prifysgolion yw Graduate Prospects sy'n cynnig gwasanaethau i fyfyrwyr graddedig. Mae gan y wefan adran ragorol a chynhwysfawr o'r enw Not sure what you want to do? sy'n cymryd golwg ar y dewisiadau y gallech eu hystyried pan fyddwch chi'n graddio, ynghyd â rhagor o wybodaeth berthnasol iawn.

Mae Prospects hefyd yn cynnwys Prospects Planner, dull diagnostig ar-lein sy'n eich helpu i ddysgu mwy am eich sgiliau, beth yw eich hoff a'ch cas bethau ac yn awgrymu gyrfaoedd posib.

Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth benodol am beth allech ei wneud gyda'ch gradd, rydym ni'n awgrymu gwefan Graduate Prospects unwaith eto. Mae'r adran o'r enw options with your subject yn ystyried y sgiliau rydych chi wedi'u dysgu fel myfyriwr, yn rhestru'r prif feysydd gwaith ar gyfer graddedigion yn y pwnc, a dewisiadau ar gyfer astudiaeth bellach. Mae'n grynodeb gwych o'r ffordd mae'ch gradd yn berthnasol i'r byd gwaith.

Mae gan Graduate Prospects wybodaeth am y byd gwaith. Yma, gallwch ymchwilio i wahanol fathau o waith, y farchnad swyddi i fyfyrwyr graddedig a manylion penodol am gannoedd o broffesiynau, yn cynnwys y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Rydym ni hefyd yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol. Mae llawer o wybodaeth yno i fyfyrwyr graddedig a fydd o gymorth i chi hefyd.

Rhoi nod tudalen gyda: