Os nad ydych chi'n siwr pa swydd fyddai orau i chi, gallwch fanteisio ar raglen Profiad Gwaith GO Wales neu efallai cael Blas ar Waith. Mae'r rhaglenni hyn yn eich helpu i ddatblygu'ch dealltwriaeth o ddewis a rheoli'ch gyrfa. Mae cyfnod o brofiad gwaith yn gwella'ch cyfle o gael swydd yn aruthrol gan fod cyflogwyr am recriwtio pobl â phrofiad gwaith. Bydd gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol yn gallu cynnig cymorth i chi hefyd os ydych chi'n chwilio am gyfleoedd gartref neu dramor: mae'r National Council for Work Experience hefyd yn adnodd defnyddiol.
Os byddwch yn penderfynu mynd ar Leoliad Gwaith GO Wales byddwch yn gweithio'n llawn amser yng Nghymru am gyfnod o 10 wythnos ac yn derbyn o leiaf £200 yr wythnos o gyflog. Ar raglen Blas ar Waith, ni fyddwch yn derbyn cyflog ond mae'n gyfle i chi roi cynnig ar swydd a chael profiad ymarferol am gyfnodau byr a hyblyg.
Gallech ystyried gwaith gwirfoddol am sawl rheswm, yn enwedig i wella'ch CV a'ch rhagolygon gyrfaol. Byddwch yn dysgu a datblygu sgiliau newydd, yn creu cysylltiadau rhwydweithio pwysig, yn cael profiad gwaith ac yn cynyddu'ch hunan-barch a'ch hunan-hyder tra'n gwneud cyfraniad pwysig i'r gymdeithas. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb maith neu i fyfyrwyr sydd am gael profiad gwaith cyn iddynt raddio. Mae rhestr o wahanol asiantaethau gwirfoddoli yn support4learning.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru ar gael yn volunteering in Wales. Mae gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol yn lle arall da i chwilio am gyfleoedd, yn enwedig os ydych chi am weithio yn eich cymuned leol. Efallai y byddwch am weithio i elusen genedlaethol fel CSV sy'n cynnig lleoliadau yn ogystal â hyfforddiant, neu efallai y byddwch am dargedu elusen benodol yn y DU neu dramor.
Mae angen i chi sicrhau fod eich blwyddyn allan yn un werth chweil yn hytrach na threulio'ch holl amser ar draethau Awstralia! Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y rhai sy'n gwirfoddoli'n cael llawr o brofiadau da, ac mae cyflogwyr am y gorau i recriwtio pobl sy'n gallu cynnig sgiliau sy'n aeddfedu.
Gall cymryd blwyddyn allan ar ôl y brifysgol fod o fantais gan ei bod yn rhoi amser i chi wneud y penderfyniad cywir am eich gyrfa yn y dyfodol. Dylai'r cyfnod fod yn brofiad llawn her gan arwain at ddatblygiad personol. Ond, mae angen i chi gynllunio'n ofalus i ddod o hyd i rywbeth y gallai'ch cyflogwr yn y dyfodol ei ystyried yn gam cadarnhaol. Gall Gap Advice eich helpu gyda hyn, yn enwedig o ran teithio dramor. Mae'n eich helpu i ddod o hyd i'r lleoliad cywir ac yn cynnig cyfrifydd i chi i'ch helpu i benderfynu faint fydd cost eich blwyddyn.
Bydd cymryd y cyfle iawn yn ystod eich blwyddyn allan yn rhoi mantais i chi yn y farchnad waith wrth i chi ddechrau chwilio am swydd. Yn gyffredinol, mae gennych bedwar dewis sut i ddefnyddio eich amser i ffwrdd - gallwch deithio, astudio, gweithio neu gyfuno'r tri. Bydd angen i chi benderfynu a fyddwch chi'n treulio'r amser fel gweithiwr cyflogedig neu fel gwirfoddolwr; mae'n werth edrych ar Worktravelcompany os ydych chi am ennill arian neu fynd dramor am gyfnod byrrach i ffwrdd. Cyn i chi fynd, defnyddiwch wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i weld a fydd angen fisa arnoch ac i gael cyngor teithio hanfodol.
Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.
Rhoi nod tudalen gyda: