Testun yn unig

Clefyd y Siwgwr

Diffiniadau

Mae’r clefyd melys (diabetes mellitus) yn gyflwr lle mae gormod o glwcos (siwgwr) yn y gwaed oherwydd nad yw’r corff yn gallu’i ddefnyddio’n iawn. Mae dau brif fath o glefyd y siwgwr, sef:

Diabetes, Math 1, sydd hefyd yn cael ei alw’n diabetes sy’n dibynnu ar inswlin.
Nid yw’r corff yn gallu cynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. Fel arfer mae’r math hwn o glefyd y siwgwr yn ymddangos cyn 40 oed. Y driniaeth ar ei gyfer yw chwystrelliadau inswlin ac argymhellir ymarfer corff rheolaidd.
Diabetes, Math 2, sydd hefyd yn cael ei alw’n diabetes nad yw’n dibynnu ar inswlin.
Mae’r corff yn dal yn gallu cynhyrchu peth inswlin, ond dim digon, neu pan gynhyrchir inswlin nid yw’n gweithio’n iawn (sef gwrthwynebiad i inswlin). Mae’r math hwn o glefyd y siwgwr fel arfer yn ymddangos mewn pobl sydd yn hyn na 40 oed, er ei fod yn aml yn ymddangos cyn 40 mlwydd oed ym mhobl De Asia a phobl Affricanaidd-Caribïaidd. Y driniaeth ar ei gyfer yw un ai diet ac ymarfer corff yn unig, neu ddiet, ymarfer corff a thabledi neu drwy ddiet, ymarfer corff a phigiadau inswlin.

Er nad yw rhai swyddi yn addas ar gyfer pobl sydd angen triniaeth inswlin, cyn belled â bod y cyflwr dan reolaeth, nid oes reswm y byd pam na all pobl ddiabetig gael wneud y rhan fwyaf o swyddi.

Pethau i’w hystyried

Mae mwyfwy o gyflogwyr bellach â pholisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a bwriad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Y mae’n awr yn anghyfreithlon i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n angenrheidol ar gyflogwyr i sicrhau ‘addasiadau rhesymol’ i gael gwared ag unrhyw rwystrau y gallech chi ddod ar eu traws yn sgil eich anabledd.

Y cwestiwn sydd o’ch blaen chi wedyn yw pryd a sut i roi gwybod am eich salwch (nid oes raid i chi ddweud ond ni ellwch wedyn gael cefnogaeth y Ddeddf Anabledd). Mae mwy o gyngor yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl y cyflwr arnoch chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall cynghorydd yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu gyda hyn.

Os yw eich triniaeth yn dibynnu ar inswlin, mae rhai swyddi na chewch eu gwneud yn gyfreithiol (y Gwasanaethau Brys, y Lluoedd Arfog, rhai swyddi sy’n cynnwys hedfan). Oni bai am y rhain, dim ond ambell swydd sydd yna na all rhywun diabetig ei gwneud oherwydd eu cyflwr.

Efallai y bydd yn rhaid i chi addasu eich triniaeth inswlin i weddu i’ch gwaith, trafodwch hyn gyda’ch meddyg neu’ch tîm clefyd y siwgwr.

Cofiwch werthu’r sgiliau yr ydych wedi’u datblygu wrth ymdopi â chlefyd y siwgwr. Mae’r agwedd gyfrifol a’r sgiliau rheoli amser yr ydych eu hangen i reoli’ch cyflwr yn sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Gellir dod o hyd i restr lawn o’r swyddi na cheir eu gwneud, yn ogystal â chyngor ar oblygiadau’r cyflwr yn y byd gwaith, yn yr Adran Adnoddau.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Diabetes UK
Safle sydd â gwybodaeth gefndirol dda ynghylch y cyflwr. Mae eu catalog o gyhoeddiadau yn cynnwys taflen ynghylch gwaith cyflogedig y gellir ei brynu o’r safle.
Diabetes Insight
Safle sy’n canolbwyntio ar fyw gyda chlefyd y siwgr, gan gynnwys cymuned ar-lein.
Graduate Prospects
Mae’r adran anableddau ar wefan swyddogol Gyrfaoedd i Raddedigion ym Mhrydain yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, gwerthu eich hun ac astudiaethau achos.
Techdis
Mae’r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata fawr o ddeunydd technolegol addasol i gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: