Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn disgrifio Dyslecsia fel afreoleidd-dra yn y rhan o’r ymennydd sy’n prosesu iaith. Mae’n effeithio ar y sgiliau sylfaenol sy’n angenrheidiol i ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu. Mae tua 4% o’r boblogaeth yn ddifrifol ddyslecsig gyda 6% pellach â symptomau ysgafn i gymedrol. Nodweddir dyslecsia gan gydbwysedd anarferol o sgiliau, ond nid yw’n effeithio ar ddeallusrwydd yr unigolyn.
Yn nodweddiadol, mae gan unigolion dyslecsig nifer o gryfderau. Yn aml, maent yn feddylwyr gwreiddiol, yn rhagorol am ddatrys problemau gan amlygu dawn gynhenid. Maent yn aml yn feddylwyr ochrol, yn gyfathrebwyr graenus, yn dda mewn celf, dylunio, peirianneg ac unrhyw rôl sy’n gofyn am sgiliau ymarferol.
Mae’r gwendidau i’w gweld fel arfer mewn meysydd megis rheoli amser a threfnu, gall eu sillafu fod yn anghyson a’u llawysgrifen braidd yn annarllenadwy. Gall fod ynddynt duedd hefyd i gamddarllen a hynny’n arwain at anawsterau dealltwriaeth.
Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn dilyn polisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithlon trin rhywrai ag anabledd yn llai ffafriol na rhai heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn mynnu bod cyflogwyr yn gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i symud unrhyw rwystrau y gallwch ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.
Mae hyn yn eich gadael â’r cwestiwn o bryd a sut i fynd ati i ddatgelu eich anabledd (does dim rhaid i chi ddatgelu, ond os na wnewch ni allwch hawlio diogelwch y Ddeddf Gwahaniaethau ar sail Anabledd) Ceir mwy o gyngor ynglyn â datgelu yn yr adran Adnoddau, ond ystyriwch beth y mae goblygiadau’ch cyflwr yn ei olygu i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu yn hyn o beth.
Wrth edrych ar opsiynau gyrfa bosibl, mae’n bwysig ystyried eich cryfderau a’ch gwendidau gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â dyslecsia. Fodd bynnag, mae’n bwysig sylweddoli y bydd y strategaethau ymdopi a ddatblygwyd gennych yn eich addysg yn parhau’n berthnasol mewn cyflogaeth.
Cofiwch ganolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol. Mae cwblhau gradd ar waethaf eich dyslecsia yn dangos ymroddiad a chymhelliant. Gall fod eich sgiliau rhyngbersonol neu’ch sgiliau datrys problemau yn arbennig o gryf. Mae’r rhain yn bethau y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt.
Mae’r mater o ddatgelu yn un personol, a chi yn unig all wneud y penderfyniad. Serch hynny, cofiwch dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, does dim rheidrwydd ar gyflogwr i wneud addasiadau oni bai eich bod chi’n datgelu eich cyflwr. Ceir rhai cyfarwyddiadau defnyddiol ar wefan Cymdeithas Dyslecsia Prydain ynglyn â sut i fynd ati i ddatgelu goblygiadau eich dyslecsia mewn golau cadarnhaol.
Rhoi nod tudalen gyda: