Testun yn unig

Epilepsi

Diffiniadau

Epilepsi

Epilepsi yw’r duedd i gael ffitiau cyson sy’n tarddu o’r ymennydd. Yn ôl Epilepsy Action, dyma’r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ond un (ar ôl meigrynnau) gydag 1 ym mhob 133 o bobl yn y DU ag Epilepsi arnynt.

Mae ffit yn digwydd pan geir ymyrraeth sydyn yng ngweithgarwch arferol yr ymennydd. Nid yw pob ffit yn arwain at gonfylsiwn, mewn gwirionedd gall effeithio ar unrhyw un o swyddogaethau niferus yr ymennydd gan gynnwys:

  • personoliaeth
  • yr hwyl
  • cof
  • cyffroadau
  • symudiad
  • ymwybyddiaeth

Gyda’r driniaeth feddygol gywir, mae mwyafrif y bobl sydd ag Epilepsi yn gallu rheoli’r cyflwr a byw bywyd cwbl ‘normal’. Ceir sawl math o Epilepsi, a nifer o achosion a symptomau gwahanol. Mae mwyafrif y bobl sydd ag Epilepsi yn gallu gweithio mewn unrhyw faes a ddymunant, gan gynnwys swyddi sy’n golygu defnyddio cyfrifiaduron neu yrru. Mae effaith epilepsi ar opsiynau cyflogaeth yn amrywio yn ôl y gwahanol fathau o epilepsi.

Pethau i’w Hystyried

Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn dilyn polisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn mae’n anghyfreithlon trin rhywun ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn mynnu bod cyflogwyr yn gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i symud unrhyw rwystrau y gallwch ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.

Mae hyn yn eich gadael â’r cwestiwn o pryd a sut i fynd ati i ddatgelu eich epilepsi, os o gwbl. Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd does dim rhaid i chi ddatgelu bod epilepsi arnoch. Serch hynny, mae yna rai rhesymau pam y gall fod o fantais i chi ddweud wrth gyflogwr posibl neu bresennol - yn enwedig o ran Iechyd a Diogelwch. Ceir mwy o gyngor ynglyn â datgelu yn yr adran Adnoddau, ond ystyriwch beth a all oblygiadau’ch cyflwr ei olygu i chi a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu yn hyn o beth.

Does ond ychydig o alwedigaethau na fedr gyflogi pobl ag Epilepsi am resymau cyfreithiol, mae’r mwyafrif llethol o swyddi yn agored i unrhyw un, er gwaethaf epilepsi. Ystyriwch natur eich ffitiau (pa fath, pa mor aml ayb), ac a ydynt yn debygol o effeithio ar unrhyw opsiynau cyflogaeth.

Ystyriwch y sgiliau a’r profiad rydych wedi eu hennill wrth ymdopi â’ch cyflwr. Mae rhai camsyniadau cyffredin yn codi ynglyn ag epilepsi, er enghraifft, ynghylch defnyddio cyfrifiaduron. Os gallwch ddefnyddio cyfrifiadur yn ddiogel, yna gwerthwch y ffaith honno i gyflogwyr posibl.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Cymdeithas Genedlaethol Epilepsi
Mae’r wefan hon yn cynnwys taflenni defnyddiol ar amrediad o bynciau’n ymwneud ag epilepsi, gan gynnwys cyflogaeth.
Epilepsy Action
Yn darparu ystod eang o wybodaeth am Epilepsi, gan gynnwys cyngor ynghylch hysbysu cyflogwr o’ch Epilepsi a’i oblygiadau.
Graduate Prospects
Yr adran anableddau ar wefan swyddogol y DU, Gyrfaoedd i Raddedigion, sy’n cynnwys adrannau ar y gyfraith, marchnata eich hunan, ac astudiaethau achos.
Techdis
Mae’r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata helaeth o ddatrysiadau technoleg addasol ar gyfer ystod o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: