Testun yn unig

Problemau Salwch Meddwl

Yn ôl Mind, bydd un ym mhob pedwar o bobl yn dioddef o broblem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau. Mewn rhai achosion, cyflwr dros dro sydd dan sylw a fydd yn gwella’n gyfan gwbl. Bydd pobl eraill yn dysgu rheoli eu cyflwr ond mae’n aros gyda nhw.

Diffiniadau

Salwch Meddwl

Ceir llawer iawn o wahanol fathau o ofid meddwl y bydd pobl yn eu profi. Ni fydd yn effeithio ar ddau unigolyn yn yr un ffordd. Y problemau mwyaf cyffredin yw iselder, pryder, pyliau panig, anhwylder obsesiynol-cymhellol, ffobiau, iselder gorffwyll a sgitsoffrenia. Gellir cael hyd i fanylion am gyflyrau penodol ar wefan Mind.

Pethau i’w hystyried

Mae gan nifer gynyddol o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu a nod y Ddeddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithiol i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rywun sydd heb anabledd ac mae’r Ddeddf yn gosod gofynion ar gyflogwyr i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.

Mae hyn yn gadael y cwestiwn i chi pryd a sut i fynd ati i ddatgelu’ch anabledd (does dim rhaid i chi ei ddatgelu ond os na fyddwch , fedrwch chi ddim hawlio cael eich gwarchod gan y Ddeddf). Mae mwy o gyngor am ddatgelu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu â hyn.

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd (2005) yn rhoi mwy o bwyslais ar broblemau iechyd meddwl. Mae’r ychwanegiadau diweddar at y Ddeddf wedi symud yr angen i salwch meddwl fod yn ‘adnabyddus yn glinigol”. Mae hyn yn ehangu’n sylweddol gwmpas yr hyn yw anhawster iechyd meddwl.

Os byddwch yn cael bod y salwch yn golygu na fedrwch ddilyn eich nod gyrfa gwreiddiol, meddyliwch yn ochrol am beth rydych yn ei fwynhau a sut y gall hynny’ch arwain at ryw ffurf ar gyflogaeth. Bydd rhai pobl yn dewis bod yn hunangyflogedig oherwydd eu bod yn gweld y gall hyn roi’r grym iddynt reoli’u llwyth gwaith eu hunain.

Mae nifer gynyddol o atebion technolegol i unrhyw rwystrau canfyddedig i’ch dewis gyrfa.

Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu cyllid ar gyfer addasiadau rhesymol i gyflogwyr ac mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau sydd eu hangen mewn perthynas â’r drefn gyfweld a dethol.

Yn hytrach na phortreadu’ch anabledd fel problem, mae’n bwysig portreadu’r agweddau cadarnhaol. Os gellwch sôn wrth ddarpar-gyflogwr am ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle ar gyfer eich anghenion penodol, a ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn broactif ac yn rhywun sy’n ceisio chwilio am atebion.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Mind
Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a chyngor am gyflogi.
Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Gwefan gynhwysfawr arall am iechyd meddwl a chyflyrau cysylltiedig.
Gwefan y BBC
Yn trafod llawer iawn o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Gwefan iechyd meddwl GIG
Adnodd cynhwysfawr.
SANE
Yn anelu at godi ymwybyddiaeth a pharch tuag at bobl sydd â salwch meddwl a’u teuluoedd, gwella addysg a hyfforddiant a sicrhau gwell gwasanaethau ac i ymgymryd ag ymchwil i achosion iechyd meddwl difrifol trwy Ganolfan Rhyngwladol Tywysog Cymru ar gyfer Ymchwil.
Graduate Prospects
Mae adran anableddau gwefan swyddogol Gyrfaoedd Graddedigion y DU yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, marchnata’ch hun ac astudiaethau achos.
Comisiwn Hawliau Anabledd
Corff annibynnol sy’n anelu at atal gwahaniaethu a hyrwyddo cyfartalwch cyfle i bobl anabl.

Rhoi nod tudalen gyda: