Parlys yw colli’r pwer i symud rhan o’r corff oherwydd anaf neu afiechyd. Mae difrifoldeb y parlys yn amrywio o unigolyn i unigolyn, a defnyddir gwahanol dermau meddygol i ddisgrifio pa aelodau sy’n cael eu heffeithio gan barlys ac i ba raddau y mae’r gallu i symud yn cael ei golli. Mae plegaidd ar ddiwedd gair yn dynodi colli pwer tra bod para yn cyfeirio at wanychu sylweddol yn y cyhyrau yr effeithir arnynt.
Bydd goblygiadau parlys yn amrywio o’r naill unigolyn i’r llall. Mewn rhai achosion, mae’r parlys yn arwain at broblemau symud o gwmpas, mewn achosion eraill (gyda pharlys yn y rhan uchaf o’r corff), mae gwahanol atebion technegol i'w cael i oresgyn y problemau a all fodoli yn y gweithle.
Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithiol i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rywun heb anabledd ac mae’r Ddeddf yn gosod gofynion ar gyflogwyr i wneud 'addasiadau rhesymol' i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.
Mae hyn yn gadael y cwestiwn i chi pryd a sut i fynd ati i ddatgelu’ch anabledd (does dim rhaid i chi ei ddatgelu ond os na fyddwch, fedrwch chi ddim hawlio cael eich gwarchod gan y Ddeddf). Mae mwy o gyngor am ddatgelu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu â hyn.
Mae atebion technolegol ar gynnydd i unrhyw rwystrau canfyddedig i’ch dewis gyrfa.
Mae cymorth ariannol ar gael i gyflogwyr tuag at unrhyw gostau addasu rhesymol trwy’r rhaglen Mynediad at Waith, cynllun sy’n derbyn arian gan y Llywodraeth ac a drefnir gan Ganolfan Byd Gwaith. Mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r drefn gyfweld neu ddethol, Mae’n rhoi cymorth ariannol tuag at gostau ychwanegol cyflogi rhywun sydd ag anabledd. Mae ar gael i bobl ddi-waith, cyflogedig a hunangyflogedig a gall fod yn gymwys i unrhyw swydd, amser llawn neu ran-amser, parhaol neu dros dro.
Mae cyllid Mynediad at Waith ar gael am hyd at dair blynedd. Cynhelir arolwg o amgylchiadau ac anghenion cefnogi os oes angen cyllid pellach ar ôl hynny.
Mae’r rhaglen Mynediad at Waith yn cael ei gweinyddu gan Ganolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i addasiu adeiladau er mwyn symud rhwystrau a all fodoli i weithwyr sydd wedi’u cyfyngu o ran symud o gwmpas.
Yn hytrach na phortreadu’ch anabledd fel problem, mae’n bwysig portreadu’r agweddau cadarnhaol. Os gellwch sôn wrth ddarpar-gyflogwr am ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle ar gyfer eich anghenion penodol, a ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn broactif ac yn rhywun sy’n ceisio chwilio am atebion.
Rhoi nod tudalen gyda: