Yn ôl Afasic, mae gan un ymhob 500 o blant anhwylder llefaru neu iaith sy’n aros gyda nhw tan eu bod yn oedolion. Mae’r term hwn yn cynnwys amrywiaeth o namau ar eu lleferydd (gan gynnwys symptomau cyflyrau eraill) sy'n amharu naill ai o ran deall a phrosesu iaith neu wrth lefaru.
Yr anhwylder llefaru mwyaf cyffredin yw atal dweud, sy’n effeithio tua 1% o boblogaeth oedolion y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir lleihau difrifoldeb yr atal â therapi lleferydd, ond ni ellir ei wella'n llwyr.
Oni bai bod yr anhwylder yn cael ei achosi gan anabledd arall, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng anhwylderau llefaru ac iaith a gallu deallusol. Gall atal dweud (deilen ar y tafod) arafu lleferydd, ond bydd yr unigolyn yn meddwl ar gyflymdra ‘arferol’.
Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithiol i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rywun heb anabledd ac mae’r Ddeddf yn gosod gofynion ar gyflogwyr i wneud 'addasiadau rhesymol' i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.
Mae hyn yn gadael y cwestiwn i chi pryd a sut i fynd ati i ddatgelu’ch anabledd (does dim rhaid i chi ei ddatgelu ond os na fyddwch, fedrwch chi ddim hawlio cael eich gwarchod gan y Ddeddf). Mae mwy o gyngor am ddatgelu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu â hyn.
Mae atebion technolegol ar gynnydd i unrhyw rwystrau canfyddedig i’ch dewis gyrfa. Mae cymorth ariannol ar gael i gyflogwyr tuag at unrhyw gostau addasu rhesymol trwy’r rhaglen Mynediad at Waith, cynllun sy’n derbyn arian gan y Llywodraeth ac a drefnir gan Ganolfan Byd Gwaith. Mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r drefn gyfweld neu ddethol, Mae’n rhoi cymorth ariannol tuag at gostau ychwanegol cyflogi rhywun sydd ag anabledd. Mae ar gael i bobl ddi-waith, cyflogedig a hunangyflogedig a gall fod yn gymwys i unrhyw swydd, amser llawn neu ran-amser, parhaol neu dros dro.
Mae cyllid Mynediad at Waith ar gael am hyd at dair blynedd. Cynhelir arolwg o amgylchiadau ac anghenion cefnogi os oes angen cyllid pellach ar ôl hynny.
Mae’r rhaglen Mynediad at Waith yn cael ei gweinyddu gan Ganolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i addasiu adeiladau er mwyn symud rhwystrau a all fodoli i weithwyr sydd wedi’u cyfyngu o ran symud o gwmpas.
Yn hytrach na phortreadu’ch anabledd fel problem, mae’n bwysig portreadu’r agweddau cadarnhaol. Os gellwch sôn wrth ddarpar-gyflogwr am ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle ar gyfer eich anghenion penodol, a ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn broactif ac yn rhywun sy’n ceisio chwilio am atebion.
Rhoi nod tudalen gyda: