Yn ôl y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol i’r Deillion (RNIB), mae dros filiwn o bobl yn y DU wedi’u cofrestru’n ddall neu sy’n gallu gweld yn rhannol. Mae rhai heb fawr neu ddim golwg ers eu geni; rhai eraill o ganlyniad i ddamwain ac mae eraill yn colli’u golwg o ganlyniad i gyflwr meddygol.
Nid yw nam ar y golwg o anghenraid yn golygu dallineb llwyr. Gall pedwar deg naw y cant o bobl ddeillion ac wyth deg y cant o bobl sy’n gweld yn rhannol adnabod cyfaill o hyd braich. Fodd bynnag, mae’r cyflwr yn golygu ei bod yn debygol y bydd angen gwneud rhyw fath o addasiadau yn y gweithle.
Mae tua 1 ym mhob 12 o ddynion ac 1 ymhob 200 o fenywod yn dioddef o ryw ffurf ar ddiffyg golwg lliw. Mae diffyg golwg lliw fel arfer yn cael ei etifeddu er y gall ddigwydd hefyd oherwydd afiechyd llygaid neu sgil-effaith i feddyginiaeth neu wenwyno. Fodd bynnag, mae diffyg caffaeledig yn brin iawn.
Yn gynyddol, mae datblygiadau technegol yn symud rhai o’r rhwystrau a oedd yno gynt i bobl sydd â nam ar eu golwg.
Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithiol i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rywun heb anabledd ac mae’r Ddeddf yn gosod gofynion ar gyflogwyr i wneud 'addasiadau rhesymol' i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.
Mae hyn yn gadael y cwestiwn i chi pryd a sut i fynd ati i ddatgelu’ch anabledd (does dim rhaid i chi ei ddatgelu ond os na fyddwch, fedrwch chi ddim hawlio cael eich gwarchod gan y Ddeddf). Mae mwy o gyngor am ddatgelu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu â hyn.
Mae camau technolegol wedi symud rhai o’r rhwystrau a oedd yno cynt i bobl sy’n gweld yn rhannol. Mewn llawer iawn o achosion mae’r dechnoleg ac addasiadau y buoch yn eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau ar gael i ddarpar-gyflogwyr ac mae cynnig yr wybodaeth yma iddynt yn ymddangos yn agwedd gadarnhaol. Siaradwch â’r RNIB ynglyn â beth sydd ar gael sy’n addas i chi.
Mae cymorth ariannol ar gael i gyflogwyr tuag at unrhyw gostau addasu rhesymol trwy’r rhaglen Mynediad at Waith, cynllun sy’n derbyn arian gan y Llywodraeth ac a drefnir gan Ganolfan Byd Gwaith. Mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r drefn gyfweld neu ddethol, Mae’n rhoi cymorth ariannol tuag at gostau ychwanegol cyflogi rhywun sydd ag anabledd. Mae ar gael i bobl ddi-waith, cyflogedig a hunangyflogedig a gall fod yn gymwys i unrhyw swydd, amser llawn neu ran-amser, parhaol neu dros dro.
Mae cyllid Mynediad at Waith ar gael am hyd at dair blynedd. Cynhelir arolwg o amgylchiadau ac anghenion cefnogi os oes angen cyllid pellach ar ôl hynny.
Mae’r rhaglen Mynediad at Waith yn cael ei gweinyddu gan Ganolfan Byd Gwaith.
Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i addasiu adeiladau er mwyn symud rhwystrau a all fodoli i weithwyr sydd wedi’u cyfyngu o ran symud o gwmpas.
Nid yw’r rhan fwyaf o ddiffygion golwg lliw’n effeithio go-iawn ar fywyd bob dydd. Mae pobl sydd â diffygion golwg lliw’n dueddol o ymaddasu i’r diffyg a gallant hyd yn oed fynd drwy gydol eu hoes heb wybod bod ganddynt ddiffyg. Mae swydd sy’n gofyn am gyfateb lliwiau’n gywir yn annhebygol o fod yn addas i unigolyn sydd â diffyg golwg lliw.
Rhoi nod tudalen gyda: