Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – IECHYD MEDDWL

Safbwynt y Myfyriwr

Diffiniad

Iechyd Meddwl

Gellir diffinio iechyd meddwl fel sut mae person yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu wrth wynebu sefyllfaoedd bywyd. Mae iechyd meddwl yn ymwneud â barn pobl amdanyn nhw eu hunain, am eu bywydau ac am bobl eraill yn eu bywydau. Mae gallu pobl i werthuso heriau a phroblemau ac i ystyried dewisiadau hefyd yn rhan o’r maes, ac mae hyn yn cynnwys ymdopi â straen, cysylltu â phobl eraill a gwneud penderfyniadau. Rydym i gyd yn fodau meddyliol ac yn fodau corfforol. Mae iechyd meddwl, felly, cyn bwysiced ag iechyd corfforol.

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 2005 yn gosod mwy o bwyslais ar broblemau iechyd meddwl. Mae’r ychwanegiadau diweddar at y ddeddf wedi dileu’r rheidrwydd i anhwylderau meddwl gael eu cydnabod yn glinigol. Mae hyn yn ehangu’r diffiniad cyfreithiol o anhwylder iechyd meddwl yn sylweddol. Os yw anhwylder iechyd meddwl yn cael effaith niweidiol fawr a hirdymor ar eich gallu i gyflawni tasgau arferol, mae’n debygol bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) yn berthnasol i chi. Yn hytrach na rhoi rhestr o anhwylderau perthnasol, mae’r Ddeddf yn ystyried effeithiau’r anhwylder ar unigolyn. Er bod llawer o bobl ag anhwylder iechyd meddwl yn credu nad ydyn nhw’n anabl, mae ganddyn nhw hawliau a gefnogir gan y DDA. Nod y DDA yw dileu gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn nifer o feysydd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth a darparu nwyddau a gwasanaethau.

Mae pobl yn gallu cael eu heffeithio gan ofid meddwl o bob math, ac mae profiadau pawb yn wahanol. Y problemau mwyaf cyffredin yw:

  • iselder ysbryd
  • pryder
  • pyliau o banig
  • anhwylder gorfodaeth obsesiynol
  • ffobiâu
  • iselder manig (anhwylder deubegwn)
  • sgitsoffrenia

Datgelu

Nid yw’r gyfraith yn eich gorfodi i ddatgelu problemau iechyd meddwl oni bai fod rhywun yn gofyn cwestiwn uniongyrchol i chi mewn cyfweliad. Os nad ydych yn datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gwestiynau penodol am eich iechyd neu am fwlch yn hanes eich cyflogaeth, gallwch gael eich diswyddo am gelu gwybodaeth yn fwriadol. Fodd bynnag, os na ofynnir cwestiynau ac os nad ydych yn datgelu problemau iechyd meddwl, gallai’r cyflogwr eich diswyddo os oes problemau’n codi yn ystod blwyddyn gyntaf eich cyflogaeth.

Materion Penodol

Mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl ymysg myfyrwyr prifysgol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Disgwylir i un o bob pedwar ohonom gael ein heffeithio gan ryw fath o ofid meddwl bob blwyddyn. Bydd llawer o’r teimladau hyn yn ymwneud â theimlo’n isel a phryderus.

Mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Iechyd Meddwl wedi dangos bod bron i 3 o bob 10 gweithiwr yn cael eu heffeithio gan broblem iechyd meddwl bob blwyddyn. Anhwylderau yn ymwneud â phryder ac iselder yw’r rhan fwyaf o’r achosion. Mae dros 91 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli bob blwyddyn oherwydd problemau iechyd meddwl.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, dylai polisi iechyd meddwl fod yn rhan annatod o bolisi iechyd a diogelwch unrhyw sefydliad. Wrth gyflwyno polisi iechyd meddwl, mae sefydliad yn dangos ymrwymiad i’r mater pwysig hwn.

Yn aml iawn, y peth anoddaf am fod ag anabledd – boed yn un corfforol neu feddyliol – yw agweddau pobl eraill. Mae polisi cyfle cyfartal sy’n cynnwys problemau iechyd meddwl ac sy’n codi ymwybyddiaeth staff o faterion iechyd meddwl trwy hyfforddiant ynghyd ag ymrwymiad rheolwyr i bolisi iechyd meddwl yn gallu effeithio’n fawr ar agweddau pobl eraill. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau nad yw gweithwyr anabl dan anfantais yn y gweithle. Mae’r DDA hefyd yn gwahardd cyflogwyr rhag gwahaniaethu ar sail anabledd. Ni fydd angen gwneud addasiadau i’r amgylchedd gwaith i bawb sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond wrth hysbysu’ch cyflogwr am broblemau iechyd meddwl, byddwch yn sicrhau ei fod yn gorfod cydymffurfio â’r ddeddf a darparu trefniadau gweithio priodol lle bo angen. Bydd hefyd yn sicrhau na chaiff y cyflogwr wahaniaethu yn erbyn pobl â phroblemau iechyd meddwl wrth recriwtio staff. Hwyrach y bydd pobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor yn gymwys i dderbyn cymorth dan y cynllun Mynediad i Waith.

Mae myfyrwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dal i allu llwyddo yn eu hastudiaethau academaidd – cyn belled â’u bod yn derbyn y cymorth angenrheidiol a bod eu sefydliad addysgol yn gallu gwneud addasiadau rhesymol yn unol â’u hanghenion. Mae’n ymddangos mai cydweithio rhwng staff addysgol a chynorthwyol a darparwyr gofal iechyd yw’r dull mwyaf effeithiol o sicrhau llwyddiant. Fodd bynnag, rhaid sicrhau cydsyniad y myfyriwr a chyfrinachedd cyn trefnu unrhyw gydweithio o’r fath.

Dod o hyd i Swydd

Os ydych chi’n poeni y gallai’ch anawsterau iechyd meddwl gael effaith andwyol ar eich ymdrechion i ddod o hyd i swydd, byddwch yn rhagweithiol wrth ddangos eich galluoedd i gyflogwyr:

  • Dangoswch eich bod yn frwdfrydig a bod y swydd, a’r cwmni’n bwysig iawn i chi.
  • Meddyliwch yn ofalus am y cymwyseddau craidd mae’r sefydliad yn chwilio amdanyn nhw, ac ewch ati i’w cysylltu â’ch addysg a’ch profiad (gwaith a/neu ddiddordebau eraill).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y gorau o’ch cryfderau. Paratowch a chyflwynwch bob un cais yn drylwyr. Mae ansawdd y cais yn bwysicach na chyflwyno toreth o wybodaeth.
  • Ceisiwch ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw trwy ennill profiad gwaith (am dâl neu’n wirfoddol) a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich gwasanaeth gyrfaoedd yn y brifysgol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
BBC
Mae gwefan y BBC yn rhoi sylw i nifer o faterion iechyd meddwl.
Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Gwefan gynhwysfawr arall am iechyd meddwl a chyflyrau tebyg.
Mind
Y Gymdeithas Iechyd Meddwl Genedlaethol. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a chyngor ar gyflogaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am eich cangen leol o MIND.
Gwefan iechyd meddwl y GIG
Adnodd cynhwysfawr

Rhoi nod tudalen gyda: