Safbwynt y Myfyriwr
Mae rhiant sengl yn rhiant ag un plentyn neu fwy sy’n weddw, wedi ysgaru neu wahanu, neu’n berson sengl yn magu plant. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2003), mae bron i un o bob pedwar o deuluoedd Prydain yn deuluoedd rhiant unigol.
Mae’n bosib y bydd rhaid i chi brofi eich bod yn rhiant sengl wrth wneud cais am fenthyciad neu grant. Os ydych chi wedi derbyn Cymhorthdal Incwm cyn dechrau eich astudiaethau, hwyrach y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn fodlon rhoi llythyr i chi yn datgan eich bod yn rhiant sengl. Fel arall, defnyddiwch gopi o dudalen flaen eich dyfarniad credyd treth a chopi o’r dudalen sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais fel unigolyn. Mae llythyr gan unigolyn proffesiynol, fel Meddyg Teulu, hefyd yn dderbyniol. Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau â’ch astudiaethau, hwyrach y bydd rhaid i chi brofi eich bod yn rhiant unigol ar ddechrau bob blwyddyn academaidd.
Mae’n bosibl hefyd y bydd eich cyflogwr yn gofyn am dystiolaeth eich bod yn gyfrifol am blentyn os ydych yn gwneud cais am absenoldeb rhiant. Hwyrach y bydd angen i chi ddangos tystysgrif geni, papurau mabwysiadu neu bapurau cyfreithiol eraill yn ymwneud â’r plentyn er mwyn profi hyn.
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth gyflogwr neu ddarpar gyflogwr bod gennych chi blant neu’ch bod yn bwriadu cael plant yn y dyfodol. Os yw’r cyflogwr yn gofyn i chi yn ystod y cyfweliad a ydych chi’n feichiog neu’n bwriadu cael plant, mae hyn yn dystiolaeth gadarn bod y cyflogwr yn torri’r ddeddf gwahaniaethu ar sail rhyw.
Chi sy’n penderfynu pryd rydych chi am hysbysu’ch cyflogwr eich bod yn feichiog. Yn ôl y gyfraith, nid oes rhaid i chi hysbysu’ch cyflogwr nes eich bod yn hysbysu am absenoldeb a thaliadau mamolaeth yn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi. Fodd bynnag, bydd angen dweud wrth y cyflogwr er mwyn i chi fanteisio ar hawliau fel amser o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol a buddiannau iechyd a diogelwch.
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth gyflogwr eich bod yn feichiog yn ystod cyfweliad am swydd. Byddai cyflogwr yn gwahaniaethu ar sail rhyw pe bai’n gwrthod cyflogi menyw oherwydd ei bod yn feichiog. Cofiwch na fyddwch yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol os ydych chi’n newid eich swydd yn ystod cyfnod eich beichiogrwydd, ond hwyrach y cewch Lwfans Mamolaeth.
Nid yw rhieni sengl yn ddatblygiad diweddar - yn ystod y ganrif ddiwethaf roedd y ganran o rieni sengl yn gymharol ddigyfnewid. Y prif newid yw’r hyn sy’n achosi teuluoedd un rhiant. Ym 1900, marwolaeth rhiant oedd prif achos teuluoedd un rhiant, ond erbyn heddiw, ysgariad yw un o’r prif achosion.
Mae’r maes hawliau cyflogaeth yn un cymhleth iawn, ac mae pob achos yn wahanol. Os nad ydych chi’n siŵr os yw rhai hawliau yn berthnasol, dylech gysylltu â chynghorydd arbenigol – gwelwch yr adran adnoddau am fanylion.
Absenoldeb rhiant yw hawl mamau a thadau i gael amser o’r gwaith er mwyn gofalu am blentyn. Gan mai absenoldeb di-dâl yw absenoldeb rhiant, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i’ch talu yn ystod y cyfnod hwn, er mae’n bosib y bydd rhai yn parhau i wneud hynny.
Mae gan weithiwyr o bob math yr hawl i gael amser ‘rhesymol’ o’r gwaith er mwyn cynorthwyo aelodau’r teulu neu’r sawl sy’n dibynnu arnyn nhw am gymorth, mewn argyfwng. Ni chaiff gweithwyr gymryd mwy o amser o’r gwaith na’r hyn sydd ei angen arnynt i ddatrys y broblem – nid yw’r gair ‘rhesymol’ wedi’i ddiffinio gan y gyfraith yn yr achos hwn.
Mae gan rieni plant dan chwech oed a rhieni plant anabl dan 18 oed yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg. Mae dyletswydd statudol ar gyflogwyr i ystyried ceisiadau o’r fath o ddifrif. Fodd bynnag, nid oes hawl awtomatig gan rywun i weithio’n hyblyg. Bydd amgylchiadau’n siŵr o godi lle nad oes modd i gyflogwr addasu ei batrymau gweithio yn unol â gofynion y gweithiwr.
Mae manteision gweithio hyblyg i fusnesau bellach yn cael eu cydnabod yn eang. Mae yna dystiolaeth glir bod trosiant staff ac absenoldeb yn cael eu lleihau a bod brwdfrydedd ac ymroddiad yn gwella mewn sefydliadau lle mae gweithwyr yn cael yr hawl i weithio’n hyblyg. Gall patrymau ac amodau gweithio gwell fod yn ffordd dda o ddenu a chadw gweithlu amrywiol.
Mae’r manylion llawn ar gael yn y canllawiau cynhwysfawr ‘Flexible Working – the right to request and the duty to consider: guidance for employers and employees’.
Rhaid i chi ystyried goblygiadau ariannol eich cwrs dewisedig yn drylwyr. Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd, dylech chi drafod gyda Chynghorydd Personol Y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Sengl (NDLP) yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Dylech chi hefyd holi’r Sefydliad lle rydych chi am astudio am unrhyw gymorth arbennig sydd ar gael i’r rhai sydd angen gwasanaethau gofal plant neu sy’n dioddef caledi ariannol.
Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich incwm, amgylchiadau teuluol, eich oedran a’r math o gwrs rydych chi am ei astudio (llawn amser neu’n rhan-amser). Os ydych chi neu’ch teulu yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, bydd angen i chi wybod sut y bydd unrhyw gymorth a gewch ar gyfer eich astudiaethau yn effeithio ar eich budd-daliadau. Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau i’r sawl sy’n magu plant. Ewch i Canolfan Byd Gwaith. Bydd y Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu darparu cyfrifiad ‘gwell eich byd’ i ddangos effaith dychwelyd i waith llawn amser neu ran-amser yn lle derbyn budd-daliadau.
Wrth astudio, hwyrach y byddwch yn gymwys i dderbyn grantiau trwy Gronfeydd Ariannol Wrth Gefn (hefyd yn adnabyddus fel Cronfeydd Mynediad neu Galedi). Caiff y rhain eu gweinyddu gan sefydliadau addysgol unigol sy’n cyhoeddi eu canllawiau eu hunain ar ddosbarthu arian. Cysylltwch â’ch swyddog lles myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth.
Grant prawf modd yw’r Grant Addysg Uwch ar gyfer myfyrwyr addysg uwch llawn amser. Fe gaiff ei dalu ar yr un pryd â’ch benthyciad i fyfyrwyr gan amlaf, ac nid oes angen ei ad-dalu. I gael manylion pellach cysylltwch â’ch Awdurdod Addysg Lleol (AALl).
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad yn rhoi arian ychwanegol i fyfyrwyr a allai, fel arall, ddioddef caledi ariannol wrth astudio. Dim ond pobl sydd â chyfeiriad yng Nghymru sydd â hawl i’w dderbyn, ac fe’i telir ar sail prawf modd. Myfyrwyr sy’n dilyn cwrs addysg uwch llawn neu ran-amser sy’n gymwys i dderbyn y grant. Ni fydd myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Addysg Uwch rhan-amser yn gymwys oni bai bod eu cwrs yn cyfateb i o leiaf 30 credyd mewn blwyddyn academaidd. Nid oes gwahaniaeth lle yn y DU rydych chi’n astudio cyn belled â bod eich cyfeiriad gartref yng Nghymru. Mae gan yr AALl wybodaeth am sut i wneud cais.
Dylech hefyd sicrhau eich bod yn hawlio unrhyw Gredydau Treth Plant sy’n ddyledus i chi.
I gael manylion llawn am y cymorth ariannol sydd ar gael – gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw gynlluniau lleol – cysylltwch â gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr eich sefydliad.
Mae gwybodaeth bellach am gymorth ariannol i rieni unigol mewn addysg uwch ar gael gan Linell Wybodaeth yr Adran Addysg a Sgiliau ar 0800 731 9133 neu gan eich awdurdod lleol. Mae hwn yn faes cymhleth iawn a gall fod yn fanteisiol i chi drafod â phob un o’r sefydliadau a enwir uchod.
Mae cyhoeddiadau defnyddiol fel ‘A Guide to Grants for Individuals in Need’, ‘The Directory of Grant Making Trusts’ a ‘The Grants Register’ hefyd ar gael o’ch llyfrgell leol neu’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol - ewch i www.citizensadvice.org.uk i weld rhestr o ganghennau yn eich ardal chi. Rhaid i chi fodloni gofynion cymhwysedd yr ymddiriedolaeth cyn cael cymorth ariannol ganddi - mae’r gofynion yn tueddu i amrywio.
Oes. Dylech chi ddilyn trefn arferol eich cyflogwr o ran rhoi gwybod am salwch. Mae gennych yr hawl i dderbyn tâl salwch yn unol â pholisi arferol eich cyflogwr. Dylai’ch cyflogwr gofnodi unrhyw absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar wahân i gyfnodau eraill o absenoldeb salwch, ac ni ddylai gael ei gynnwys yng nghyfanswm eich absenoldeb salwch at ddibenion disgyblu neu ddileu swydd. Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo neu’ch trin yn llai ffafriol oherwydd eich beichiogrwydd neu oherwydd eich bod wedi cymryd absenoldeb salwch yn ystod eich beichiogrwydd. Nid yw’ch cyflogwr yn gallu gweithredu absenoldeb mamolaeth oni bai eich bod yn cael amser o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd yn y pedair wythnos cyn dyddiad disgwyliedig eich babi.
Dylech chi hysbysu’ch cyflogwr am eich bwriad i fabwysiadu cyn gynted ag y cewch chi gymeradwyaeth.
Mae gennych chi hawl i 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu safonol a 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu ‘ychwanegol’ os ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos erbyn yr wythnos i chi glywed eich bod wedi’ch paru â phlentyn i’w fabwysiadu. Telir Tâl Mabwysiadu Statudol am gyfnod o 26 wythnos. Rhaid i chi hysbysu’ch cyflogwr am ddyddiad arfaethedig eich cyfnod o absenoldeb ar ôl cael eich paru â phlentyn. Mae gennych chi’r hawl hefyd i absenoldeb rhiant ac amser o’r gwaith ar gyfer dibynyddion.
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen arbennig sydd wedi’i sefydlu gan y llywodraeth er mwyn helpu rhieni unigol sydd am weithio. Mae’r rhaglen ar gael i rieni unigol sy’n gweithio dan 16 awr yr wythnos neu i rai nad ydyn nhw’n gweithio o gwbl sydd â phlentyn ieuengaf dan 16 oed.
I gael mwy o wybodaeth am y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol neu i drefnu sgwrs gyda chynghorydd personol, ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0800 868 868, galwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol neu ewch i www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/Customers/outofworkhelplookingforwork/gettingjobready/programmes/NewDeal/Y_Fargen_Newydd_ar_gyfer_Rhieni_Unigol/index.html.
Rhoi nod tudalen gyda: