Arddulliau Dysgu
Datblygodd Dr Peter Honey and Alan Mumford (1986) holiadur am arddulliau dysgu, yn seiliedig ar waith Kolb (gweler taflen ffeithiau 'Learning from Experience') ac eraill, i fesur sut mae pobl yn dysgu, i annog unigolion i ddatblygu eu potensial dysgu ac adrodd am sut y gallant wella eu harddull dysgu. Eglurwyd y pedair prif arddull dysgu ganddynt fel:
Fel gyda damcaniaeth Kolb, efallai na fydd pobl yn ddysgwyr llawn effeithiol ym mhob cyfnod o'r cylch dysgu. Diben holiadur Honey a Mumford yw eich galluogi i adnabod y cyfnod(au) pryd mae'ch dysgu'n fwyaf effeithiol h.y. eich dewis arddull dysgu.
Dyma'r pedwar dewis dysgu:
- Gweithredwr
- Os gweithredwr ydych chi rydych yn hoffi cymryd rhan yn llawn mewn profiadau newydd. Byddwch yn ceisio unrhyw beth unwaith, yn agored eich meddwl. Rydych yn mwynhau'r funud hon, ac yn hoffi 'mynd i'r afael â' phroblemau disymwth, gan chwilio'n ddiwyd am atebion trwy bentyrru syniadau. Rydych yn dda wrth ddelio ag argyfyngau tymor byr. Nid ydych yn hoff o bwyll na diflastod nac yn awyddus i orfod gweithredu neu gyfnerthu'ch syniadau; mae'n well gennych edrych am gyffro her newydd. Rydych yn gymdeithasol ond yn hoffi bod yng nghanol y sylw.
- Damcaniaethwr
- Mae'n well gennych feddwl trwy broblemau mewn ffordd resymegol gam wrth gam. Rydych yn hoffi dadansoddi ac integreiddio syniadau i ddamcaniaethau cymhleth ond cydlynol. Rydych yn berffeithydd i raddau, yn ceisio creu systemau taclus, rhesymol. Rydych yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn gweithio â modelau damcaniaethol, a rhagdybiau ac egwyddorion sylfaenol. Eich arfer yw bod yn ddiduedd ac yn wrthrychol. Rydych yn anghyfforddus iawn ag amwysedd neu oddrychedd. Rydych yn anoddefgar tuag at ansicrwydd neu feddwl ochrol, unrhyw beth mewn gwirionedd nad yw'n ffitio i'ch fframwaith damcaniaethol.
- Adfyfyriwr
- Eich tuedd yw bod yn bwyllog a meddylgar, gan fod yn hoff o gasglu a dadansoddi cymaint o ddata ag sy'n bosibl cyn dod i benderfyniad. Rydych yn hoff o feddwl dros bethau. Rydych yn cadw'ch pen i lawr mewn trafodaethau; mae'n well gennych arsylwi a gwrando ar eraill, a gweld i ba gyfeiriad mae'r drafodaeth yn mynd cyn gwneud eich cyfraniadau eich hun.
- Pragmatydd
- Rydych yn frwdfrydig am geisio damcaniaethau a thechnegau newydd yn ymarferol. Mae'n well gennych fynd ymlaen â phethau, gan weithredu'n gyflym a hyderus â syniadau rydych yn eu hoffi. Rydych yn mynd yn rhwystredig â 'churo'r twmpath' neu drafodaethau synfyfyriol, pen-agored. Rydych yn hynod ymarferol, yn mwynhau heriau a datrys problemau, ac yn chwilio bob amser am ffyrdd gwell o wneud pethau. Eich safbwynt chi yw 'os yw'n gweithio mae'n dda'.
Rhoi nod tudalen gyda: