Testun yn unig

Beth yw Cofnod Dysgu?

Mae Cofnod Personol yn adroddiad ysgrifenedig o'ch cyfnod profiad gwaith. Fe'i heglurir orau gan yr enghraifft gyffredin hon:

Rydych chi'n gweithio mewn cwmni am 10 wythnos. Am yr wythnos gyntaf rhoddir eich prosiect i chi ac rydych chi'n teimlo fel pe baech wedi'ch gorlethu. Rydych yn mynd i'r afael â'r gofynion, llunio cynllun a rhoi cychwyn. Mae pethau'n gweithio'n iawn ac rydych chi'n cael canlyniadau. Hanner ffordd drwodd rydych chi'n cwrdd â phroblem. Rydych chi'n credu na allwch ei ddatrys ond rydych chi'n falch o gael hyd i ateb. Rhwng popeth, rydych chi'n dysgu sgiliau newydd, dysgu sut mae busnes yn gweithio ac rydych wedi cymryd camau breision o ran eich datblygiad personol (hyder, sgiliau cyfathrebu, ac ati).

Mae pob un o'n lleoliadau yn wahanol ond mae hwn yn brofiad cyffredin iawn. Oni bai i chi gofnodi'ch cyflawniadau mae'n hawdd anghofio'n union yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Mae cymryd nodiadau wrth fynd ymlaen yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Nid yw'n cymryd yn hir ac mae wedi'i brofi ei fod yn helpu â'ch ceisiadau swydd yn y dyfodol.

Mae i fyny i chi sut y gwnewch gofnod; gallwn ni ddarparu canllaw neu gallwch chi lunio'ch un chi.

Sut i ysgrifennu Cofnod Dysgu

Beth mae'n rhaid i mi ei wneud?

Dechreuwch yr arfer o lenwi'ch adroddiad yn rheolaidd ar amser sy'n gweddu orau i chi; gall hyn fod yn ddyddiol neu'n wythnosol. Ni ddylai hyn gymryd mwy nag ychydig o funudau ond trwy fabwysiadau dull mwy dadansoddol ac adfyfyriol o ysgrifennu am eich lleoliad, byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o'r hyn rydych wedi'i brofi. Trwy hyn byddwch yn gallu dysgu mwy amdanoch chi'ch hun, am y sgiliau y buoch yn eu datblygu ac am eich dealltwriaeth o natur yr amgylchedd gwaith.

Wrth i chi ysgrifennu'n adfyfyriol gwnewch yn siwr:

  • bod diben i'ch ysgrifennu
  • y rhoddwch amser i chi'ch hun i ystyried yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd
  • y ceisiwch gynnwys barnau a safbwyntiau pobl eraill am yr hyn a ddigwyddodd i chi
  • eich bod yn adfyfyrio am yr hyn rydych wedi dysgu amdanoch chi'ch hun ac am eraill
  • y meddyliwch am sut y byddech yn gwneud rhywbeth yn wahanol rywbryd arall

Mae'r tabl canlynol (a gymerwyd o "Learning By Doing" Gibbs (1988) ac sy'n seiliedig ar "Experiential Learning Cycle" (1984) Kolb) yn cynnig methodoleg am adfyfyrio am brofiadau penodol. Defnyddiwch hwn fel canllaw, neu ar ôl i chi ysgrifennu am brofiad, defnyddiwch eich adroddiad ysgrifenedig i brofi a ydych wedi ateb y cwestiynau yn y golofn dde. Os na allwch ateb y cwestiynau yna efallai bydd eich adroddiad ysgrifenedig yn rhy ddisgrifiadol a ddim yn ddigon dadansoddol. Cofiwch nad yw'ch dyddiadur yn ymwneud yn unig â dweud 'stori' yr hyn rydych wedi'i brofi - mae'n ymwneud â dysgu o'r profiad.

Disgrifiad
Beth yw'r ysgogiad am adfyfyrio? (digwyddiad, tro, syniad damcaniaethol) Am beth rydych chi'n mynd i adfyfyrio?
Teimladau
Beth oedd eich adweithiau a'ch teimladau?
Gwerthuso
Beth oedd yn dda a beth oedd yn ddrwg am y profiad? Gwnewch ddyfarniadau gwerth.
Dadansoddi
Faint rydych chi'n deall y sefyllfa? Dewch â syniadau o'r tu allan i'r profiad i'ch helpu. Beth oedd yn mynd ymlaen mewn gwirionedd?
Casgliadau (cyffredinol)
Beth yw'r casgliadau yn gyffredinol o'r profiadau hyn ac o'r dadansoddiadau rydych wedi'u gwneud?
Casgliadau (penodol)
Beth yw'r casgliadau am eich sefyllfa bersonol, unigryw, benodol eich hun neu'ch ffyrdd eich hun o weithio?
Cynlluniau Gweithredu Personol
Beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn wahanol y tro nesaf yn y math hwn o sefyllfa? Pa gamau rydych chi'n mynd i'w cymryd ar sail yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu?

Rhoi nod tudalen gyda: