Datrys Problemau
Mae datrys problemau'n sgil â gwerth uchel yn y byd gwaith. Ond beth yw ystyr 'datrys problemau'? Yn y bôn, y broses o ddyfeisio cysyniad newydd sy'n ddatrys problemau yw hyn.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn diffinio problem fel: “Peth, mater, pwnc, neu berson anodd delio ag ef neu anodd ei ddeall”
.
Beth mae datrys problemau'n ei gyflawni?
Gellir datrys problemau orau, ni waeth beth yw eu maint neu'u cymhlethdod, trwy symud trwy gyfres o gamau. Mae hyn yn sicrhau y gwneir popeth posibl i gymhwyso'r adnoddau sydd ar gael yn y modd mwyaf effeithiol, i ystyried nifer o opsiynau, ac i ddewis yr opsiwn gorau.
Beth yw'r broses?
-
Nodi'r broblem
- Creu rhestr o broblemau
- Dewis maes â phroblem
- Paratoi datganiad syml yn nodi'r broblem yn glir
-
Casglu gwybodaeth
- Beth rydyn ni'n ei wybod? Nodwch holl achosion posibl y broblem a rhestrwch unrhyw wybodaeth a all helpu cadarnhau cysylltiad rhwng yr achosion posibl a'r effeithiau tybiedig gan ddefnyddio cwestiynau megis Pwy? Beth? Ble? Sut? Pam? Pryd?
- Penderfynwch pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chasglu er mwyn cael esboniad llawn o'r broblem ac amseru'r ffynhonnell, a lluniwch gyfrifoldebau a gweithdrefnau y mae eu hangen i wneud hynny.
- Ymgynghorwch ag unrhyw un y mae'r broses casglu data'n debyg o effeithio arnynt, gan esbonio'r gofynion a'r rheswm dros gasglu, ac yna ewch ati i gasglu'r data.
-
Penderfynwch ar achos y broblem
- Nodwch achosion y broblem
- Dewiswch yr achosion mwyaf tebygol
- Penderfynwch a gafwyd hyd i'r achos sylfaenol - os na cheir hyd i'r achos sylfaenol, efallai y bydd rhaid adolygu'r data a gasglwyd
- Diffiniwch achos sylfaenol y broblem
-
Atebion posibl
- Datblygwch feini prawf ar gyfer datrys - hanfodion a dymuniadau
- Creu atebion posibl - os na cheir hyd i'r un ateb posibl, adolygwch a yw'r meini prawf ar gyfer datrys yn ddichonadwy, neu a gafwyd hyd i'r gwir achos sylfaenol. Os oes nifer enfawr o atebion posibl, adolygwch a ddiffinnir y meini prawf datrys yn iawn neu beidio.
-
Dewis yr ateb gorau
- Cynhaliwch ymarfer hidlo sylfaenol o atebion posibl
- Dim ond y rheiny sy'n cydymffurfio â'r holl 'hanfodion' sydd i'w hystyried ymhellach - os nad oes un o'r atebion posibl yn bodloni'r holl hanfodion - adolygwch y meini prawf ar gyfer datrys - rhaid i'r rhain fod yn llym.
- Casglwch wybodaeth ynghylch canlyniad tebygol pob ateb posibl, gan ystyried effeithiau niweidiol yn arbennig.
- O'r holl wybodaeth a gasglwyd yn y gweithgareddau uchod, dewiswch yr ateb gorau ar gyfer y broblem sydd ar gael.
-
Cynllunio ar gyfer gweithredu
- Nodwch y ffactorau hynny a fydd yn effeithio ar weithredu'r ateb ar gyfer y broblem yn llwyddiannus, gwerthuswch eu heffeithiau a phenderfynwch sut orau i addasu'r achosion hyn i wella gweithredu'r ateb, gan amlygu'n arbennig unrhyw anghenion hyfforddi ymhlith y rheiny y mae eu hangen er mwyn gweithredu'r ateb.
- Nodwch yr holl gamau gweithredu y mae eu hangen i weithredu'r ateb yn llwyddiannus. Trefnwch yn rhesymegol yr holl wybodaeth a gasglwyd er mwyn llunio Cynllun Gweithredu. Rhaid i'r cynlluniau hyn gynnwys gweithgareddau mesur priodol wedi'u diffinio'n glir, a bydd y rhain yn adlewyrchu lefelau effeithiolrwydd yr ateb. Rhaid sicrhau creu cynlluniau wrth gefn, a fydd yn gofalu am ddigwyddiadau niweidiol.
-
Gweithredu a Phrofi
- Ymgymerwch â'r cynllun gweithredu, gan roi'r ateb ar waith. Sicrhewch fod gweithgareddau'n cael eu monitro, a bod unrhyw gamau gweithredu wrth gefn wedi'u cofnodi ar gyfer dadansoddiad posibl yn y dyfodol. Dylid rhoi digon o sylw i weithgareddau mesur.
- Profwch yr ateb.
-
Adolygu
- Sicrhewch fod pawb sydd ynghlwm yn cael gwybod am y canlyniadau a gafwyd, am lefelau effeithiolrwydd y camau gweithredu a gymerwyd, ac am feysydd lle mae'n bosibl y ceir problemau yn y dyfodol. Sicrhewch fod gweithdrefnau a mesurau yn bodoli i gadw'r enillion a gyflawnir.
- O'r adroddiad ar effeithiolrwydd yr ateb, paratowch restr eglur o feysydd ar gyfer gwelliannau posibl eraill i'r sefyllfa broblem. Gellid ychwanegu at hyn trwy adolygu'r data achos sylfaenol cynharach a gasglwyd, i baratoi ar gyfer gweithredu pellach ar y broblem gyffredinol.
Rhoi nod tudalen gyda: