Rheoli Prosiectau
Beth yw prosiect?
Mae prosiect yn gyfres dros dro o dasgau a chanddi ddechrau a diwedd pendant ac ymgymerir â'r gyfres hyn er mwyn creu cynnyrch unigryw neu wasanaeth.
Beth yw rheoli prosiectau?
Y broses o gyfarwyddo a chyd-drefnu adnoddau amrywiol trwy oes prosiect er mwyn bodloni anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid neu fynd y tu hwnt iddynt yw rheoli prosiectau.
Mynd i'r afael â'ch prosiect lleoliad
Gellir ystyried rheoli prosiectau'n broses gylchol bedwar cam:
-
Egluro nodau ac amcanion eich prosiect
- Cadarnhewch yn bendant yr hyn mae'ch cyflogwr yn disgwyl gennych chi a chan y prosiect
- Sut mae'ch cyflogwr eisiau i'ch canlyniadau gael eu cyflwyno? Yn ystadegol? Fel argymhellion? Gan gynnwys dadansoddiad cost? Wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig neu ar lafar?
- Lluniwch restr o amcanion, gan gynnwys yr elfennau wedi'u cytuno, manyleb yr elfennau hyn a phryd maent i fod i gael eu cynnwys. Defnyddiwch hyn i gadarnhau'ch dealltwriaeth o'r hyn a ddisgwylir gennych gyda'ch cyflogwr.
-
Nodi'r camau cysylltiedig
- Pa adnoddau a gwybodaeth mae eu hangen arnoch?
- Sut y cewch chi'r wybodaeth?
- Nodwch y tasgau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r nod. Gofynnwch y cwestiynau i chi'ch hun yn gyson: sut, beth, pryd? Bydd hyn yn eich helpu i aros ar y trywydd iawn.
-
Cynllunio ac amseru'ch prosiect
- Ym mha drefn y dylid cwblhau'r tasgau?
- Faint o amser bydd pob un yn ei gymryd?
- Beth yw'r terfynau amser dan sylw?
- A oes llwybr critigol, h.y. a oes rhaid cwblhau un cyn dechrau ar un arall?
-
Monitro a gwerthuso'ch prosiect
- Monitrwch eich cynnydd yn rheolaidd trwy ddefnyddio'r dyddiadur adfyfyriol a gwirio bod eich perfformiad yn bodloni'r mesurau rydych wedi'u gosod
- Os ceir rhwystrau, gwnewch yn siwr eich bod yn eu codi gyda'ch rheolwr llinell yn syth fel y gallwch ystyried y goblygiadau
- Adolygwch gyda'ch rheolwr llinell ar ôl cyfnodau gosod
- Penderfynwch a oes angen newid cynllun
Mae'r broses rheoli prosiectau yn rhoi'r strwythur, ffocws a threfn angenrheidiol er mwyn cwblhau unrhyw brosiect yn llwyddiannus.
Pam defnyddio rheoli prosiectau?
- Cyd-ddealltwriaeth o nodau'r prosiect
- Ymwybyddiaeth o'r cynnydd mewn gweithgareddau cyfochrog ac o'r problemau'n gysylltiedig â chyd-drefnu gweithgareddau
- Cynllunio realistaidd o anghenion pob grwp ac unigolyn sy'n gweithio ar y prosiect
- Deall perthynas tasgau unigol â'i gilydd ac i'r prosiect yn gyffredinol
- Arwyddion rhybudd cynnar o broblemau posibl ac oediadau yn y prosiect
- Mwy o amlygrwydd i'r rheolwyr, gan gynnwys cyfeirio sylw at anghenion disymwth y prosiect
- Diweddaru pawb sy'n gyfrannog o ran statws prosiect
Beth os dechreua pethau fynd o chwith?
Yn gyntaf, peidiwch â'i anwybyddu. Os gallwch, ceisiwch ei ddatrys yn fewnol gyda'r Cwmni Cynnal Lleoliad. Mae'n bwysig i chi ddweud wrth eich rheolwr neu oruchwyliwr am unrhyw broblemau rydych yn eu cael a rhoi gwybod i'ch Trefnydd Lleoliad beth sy'n digwydd a chael eu cyngor.
Dyma enghreifftiau o sut i reoli rhai sefyllfaoedd.
NODI PROBLEM
|
CAM GWEITHREDU
|
|
Mae'r staff yn y cwmni cynnal lleoliad yn anghydweithredol
|
Sicrhewch fod eich goruchwyliwr yn eich cyflwyno'n iawn ar ddechrau'r lleoliad. Eglurwch eich anghenion i'r staff a chodi unrhyw faterion gyda'ch rheolwr llinell os oes angen.
|
|
Nid yw'r adnoddau anghenrheidiol yn eu lle/ar gael
|
Nodwch yr hyn mae arnoch ei angen a phryd mae ei angen. Siaradwch â'ch rheolwr, eglurwch y rhesymeg a'r goblygiadau o ran y canlyniadau os na chewch yr hyn mae arnoch ei angen.
|
|
Mae'r amserlen yn llithro
|
Nodwch beth yw'r achosion a thrafodwch nhw â'ch goruchwyliwr. Ystyriwch beth a allai ddod â'r prosiect yn ôl i'r amserlen iawn, e.e. adnoddau ychwanegol.
|
Cofiwch y bydd monitro cynnydd yn rheolaidd yn eich helpu i gwrdd â therfynau amser a dywedwch wrth eich rheolwr llinell am eich cynnydd. Peidiwch ag anwybyddu problemau neu efallai bydd gan eich rheolwr llinell ddisgwyliadau afrealistaidd o'r hyn y gallwch ei gyflawni yn yr amser sydd gennych.
Rhoi nod tudalen gyda: