Testun yn unig

Rheoli Amser

A ydych chi'n rheoli'ch amser yn effeithiol? A ydych chi bob amser yn rhuthro i gwrdd â therfynau amser, yn canfod i chi wneud bwciad dwbl, yn anghofio cwblhau tasgau pwysig? Mae rheoli amser yn ymwneud â bod yn effeithiol ac effeithlon ag adnodd gwerthfawr - mewn geiriau eraill 'mae'n sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy o'r pethau rydyn ni eisiau eu gwneud, ac mewn pryd'. Mae hyn yn bwysig oherwydd tra byddwch ar leoliad bydd disgwyl i chi drefnu'ch amser eich hun a chan eich bod gyda'r cwmni cynnal lleoliad dim ond am gyfnod byr mae'n hanfodol i chi reoli'ch amser yn effeithiol.

Yn aml, ni chydnabyddir gwerth cynllunio'ch amser, ac mae rhai'n dadlau mai amser wedi'i wastraffu yw amser a dreulir yn cynllunio.

Fodd bynnag, trwy gynllunio'ch amser byddwch yn:

  • Lleihau'r amser a dreulir ar wneud penderfyniadau
  • Gostwng nifer yr argyfyngau
  • Rhoi cyfeiriad
  • Cynyddu gweithgarwch rhagweithiol
  • Cynyddu ansawdd a swm y gwaith

Eto, mae ychydig o gamau syml sy'n gofyn am yr ymdrech leiaf i ddwyn gwelliannau sylweddol i'ch cynhyrchiant a'ch effeithlonrwydd.

  1. Neilltuo 15 munud bob dydd ar gyfer cynllunio
  2. Ysgrifennu pob tasg y mae angen ei chyflawni
  3. Blaenoriaethu'ch tasgiau
  4. Amcangyfrif faint o amser mae angen ar gyfer pob tasg
  5. Trefnu amser penodol yn ystod y dydd ar gyfer pob tasg

Fodd bynnag, bydd hyn yn effeithiol dim ond os:

  • Gwnewch chi amcanion amser realistaidd
  • Ystyriwch chi ymyriadau
  • Na chynhwyswch chi amcanion hirdymor

Cofiwch bydd eich lleoliad yn mynd yn gyflym.

Bydd yr awgrymiadau'n eich helpu i wneud y gorau o'ch cyfle a chyflwyno prosiect gwerthfawr i'ch cwmni cynnal lleoliad.

Rhoi nod tudalen gyda: