Astudiaethau Achos GO Wales
- Dylunio Graffig - Y Canolbarth
- Cafodd Cate Jones ei chyflogi gan Brecon Coachworks i greu deunydd marchnata ar gyfer math newydd o fws mini. Roedd hyn yn golygu creu amrywiaeth o ddeunydd, o nwyddau i ddatganiadau i’r wasg, gyda’r cyfan yn cyfrannu at lansio’r bws mini.
- Cynorthwy-ydd Ymchwil a Swyddog Cymorth - Y De-ddwyrain
- Gwnaeth Heledd nifer o gysylltiadau gwerthfawr ledled y ward a chasglodd lawer o wybodaeth bwysig ar gyfer y prosiect. Roedd y manteision i’r prosiect yn cynnwys hyrwyddo a chodi proffil yn y gymuned.
- Dylunio Graffig - Y De-ddwyrain
- Dysgodd Michael am brosesau dylunio o’r syniad cychwynnol i gwblhau’r prosiect gan ennill profiad o greu ffeiliau yn barod i’w hargraffu. Datblygodd amrywiol sgiliau a chreodd gryn argraff ar ei gyflogwr gan arwain at gael cynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni.
- Ymchwilydd cynhyrchu fideo - Y De-ddwyrain
- Ar ôl chwilio am waith ffilm yn y cyfryngau am dros flwyddyn roedd Kane Hicking a Tom Fide yn teimlo nad oedden nhw’n mynd i’r unlle. Fodd bynnag, wrth chwilio gwelson nhw raglen a lleoliad GO Wales a fyddai’n rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’u sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol.
- Datblygwr y we - Y De-orllewin
- Yn ystod ei leoliad 10 wythnos, datblygodd Stephen system docynnau ar-lein a roddodd ddealltwriaeth effeithiol o e-fasnach iddo.
- Peiriannydd ymchwil a datblygu - Y Canolbarth
- Datblygodd Emma amrywiaeth o gynhyrchion ar gyfer tîm Beicio Olympaidd Awstralia.
- Dadansoddwr ymddygiad - Y De-ddwyrain
- Gweithiodd Romani gyda phlant awtistig er mwyn deall eu hymddygiad a lluniodd adroddiad gwerthfawr o ganlyniad i hynny.
- Cadwraethwr Natur - Y Canolbarth
- Bu’r lleoliad yn gymorth i Christina wella’i gwybodaeth am gadwraeth natur a’i galluogi i ganolbwyntio ar gyfeiriad i’w gyrfa.
- Peirianneg Chwaraeon Modur - Y Canolbarth
- Cynorthwyodd y lleoliad hwn i ddatblygu cydosodiad hongiad ôl.
- Gweithiwr Prosiect Ieuenctid - Y De-orllewin
- Prosiect gwaith ieuenctid i gynorthwyo pobl ifanc yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rhoi nod tudalen gyda: