Testun yn unig
Michael Mansfield

Astudiaethau Achos GO Wales

Dylunio Graffig - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Melin Homes
Prosiect
Dylunio Graffig
Ymgeisydd
Michael Mansfield (Dylunio Graffig)

Cymdeithas Dai yn y De-ddwyrain yw Melin Homes. Mae'n rheoli oddeutu 3,000 o dai sydd yn ei meddiant ar draws pum ardal awdurdod lleol ac yn diwallu pob math o ofynion o ran tai ac yn cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel.

Amcan y prosiect

Roedd y cwmni'n chwilio am unigolyn â gradd mewn dylunio graffig i helpu i ddylunio a chynhyrchu deunydd i'r gorfforaeth a chynorthwyo'r swyddog cyfathrebu gydag amrywiol weithgareddau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Canlyniad y prosiect

Dysgodd Michael am brosesau dylunio o'r syniad cychwynnol i gwblhau'r prosiect gan ennill profiad o greu ffeiliau yn barod i'w hargraffu. Datblygodd amrywiol sgiliau a chreodd gryn argraff ar ei gyflogwr gan arwain at gael cynnig swydd lawn amser gyda'r cwmni.

Michael Mansfield

“Treuliais fy lleoliad 10 wythnos yn gweithio fel Dyluniwr Graffig gyda Melin Homes. Yn ystod y cyfnod, bûm yn gweithio ar amrywiol brosiectau dylunio gan ennill profiad o ddefnyddio meddalwedd newydd, datblygu cysyniadau, paratoi gwaith celf i'w argraffu ac ymdrin â chleientiaid ac argraffwyr. Llwyddais hefyd i gael profiad gwerthfawr o amgylchedd gwaith beunyddiol dyluniwr graffig.”

“Ar ddiwedd y 10 wythnos, ces gynnig swydd lawn amser gyda Melin fel Dylunydd Graffig Cynorthwyol. Rwyf wedi bod yma ers naw mis bellach ac rwyf wedi parhau i ddatblygu fy sgiliau dylunio ac wedi cael secondiad i swydd uwch i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth fy nghydweithwraig. Mae fy mhrofiad o GO Wales wedi bod yn gadarnhaol iawn gan iddo fy ngalluogi i gychwyn gweithio yn y maes y bûm yn astudio. Mae profiad gwaith yn hanfodol mewn maes fel Dylunio Graffig, ond nid yw'n hawdd dod o hyd iddo. Mae GO Wales wedi fy ngalluogi i gychwyn ar yrfa yn yr union faes.”

Bu Michael yn hynod lwyddiannus yn ystod y lleoliad 10 wythnos cychwynnol, ac meddai Helen Ball y Swyddog Cyfathrebu:

“Yn ddiweddar, aethom ati i ehangu ein tîm cyfathrebu gan gysylltu â GO Wales i gael eu cymorth i ddod o hyd i ddyluniwr graffig graddedig, am gyfnod o 10 wythnos i ddechrau. Ymhen ychydig wythnosau roedd gennym unigolyn graddedig gwych yn y swydd a oedd yn diwallu'n anghenion yn llwyr. Roedd yr holl broses yn syml ac effeithiol iawn ac rydym wrth ein boddau fod Michael wedi derbyn swydd lawn amser gyda'r cwmni.”

“Fe fyddwn ni'n siŵr o ddefnyddio GO Wales i hysbysebu swyddi yn y dyfodol ac rydyn ni'n bwriadu cynnig lleoliadau blas ar waith pellach i fyfyrwyr a graddedigion fel ei gilydd.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: