Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Cadwraethwr Natur - Y Canolbarth

Sefydliad
Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed
Prosiect
Cadwraethwr Natur
Ymgeisydd
Christina Morris (Amaethyddiaeth)

Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed 19 gwarchodfa natur ledled y sir sy'n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd. Mae gwaith yr Ymddiriedolaeth yn amrywiol iawn, gan gynnwys cynnal arolygon o rywogaethau sy'n agored i niwed ac mewn perygl.

Amcan y prosiect

Gofynnwyd i Christina Morris gynhyrchu arolygon o rywogaethau ystlumod a warchodir a datblygu arbenigedd ym maes recordio a dadansoddi galwadau ystlumod. Amcan y prosiect oedd helpu'r gwasanaeth ymgynghori i wella ansawdd adroddiadau ar rywogaethau a warchodir ar gyfer eu cleientiaid.

Canlyniad y prosiect

Llwyddodd y profiad i helpu Christina i benderfynu ar gyfeiriad ei gyrfa yn y dyfodol:

“Roedd y lleoliad yn gyfle ardderchog i gael profiad ymarferol o gadwraeth natur. Ces i gyfle i gyfarfod â nifer o weithwyr cadwraeth proffesiynol brwdfrydig ac ymroddedig; mae cydweithio gyda nhw wedi fy helpu i benderfynu ar gyfeiriad fy ngyrfa fy hun.”

Roedd Chris Ledbury, Rheolwr y Gwasanaeth Ymgynghori, wrth ei fodd â chyfraniad gwerthfawr Christine gydol cyfnod ei lleoliad:

“Roedden ni'n ffodus iawn i gael Christina yma am ddeg wythnos ac roedd hi'n help mawr. Mae dulliau modern o adnabod ystlumod yn defnyddio offer cymhleth a dadansoddiad cyfrifiaduron. Buan iawn y daeth Christina yn gyfarwydd â'r gwaith cymhleth o recordio galwadau ystlumod ac roedd hi'n gallu ein helpu ni i ddatblygu ein sgiliau yn y maes hwn.”

“Mae hi hefyd wedi cynorthwyo gyda gwaith amrywiol arall, gan gynnwys helpu i osod 400 o diwbiau nythu ar gyfer y pathew mewn coetiroedd fel rhan o arolwg ar y pathew. Roedd ei chyfraniad yn hynod o werthfawr. Gwasanaethau Natur Maesyfed yw cangen gwasanaeth ymgynghori Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed. Rydym yn gobeithio defnyddio GO Wales eto yn y dyfodol.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: