Mae prosiect MePlan50+ yn ymwneud â gweithio gydag unigolion a chyflogwyr i wella cyfleoedd a fydd yn cyfrannu at gynyddu cyflogaeth, cadw ac ailintegreiddio pobl dros 50 mlwydd oed.
Y nod oedd datblygu a chynhyrchu fideo a deunydd astudiaeth achos o'r ymchwil a wnaed ar bobl gyflogedig, hunangyflogedig a gwirfoddolwyr dros 50 oed.
Y nod ar ddiwedd y lleoliad oedd cynllunio, ffilmio a chreu fideo yn llwyddiannus a fyddai'n arddangos yr ymchwil a gasglwyd gan brosiect MePlan.
Gweithiodd Kane Hicking a Tom Fide ar y prosiect fel partneriaeth, a dyma'u hymateb i'r profiad:
“Ar ôl chwilio am waith ffilm a fideo yn y cyfryngau ers dros flwyddyn, teimlai Kane a minnau nad oedden ni'n cyrraedd unman. Nid oedd fawr o werth i'n cymwysterau gradd heb y profiad gwaith proffesiynol ychwanegol. Tra'n chwilio am waith perthnasol, gwelsom leoliad GO Wales a oedd yn cynnig cyfle i ni ddefnyddio'n sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol.”
“Mae'r lleoliad 10 wythnos gyda MePlan50+ wedi'n galluogi i roi'r hyn a ddysgwyd gennym yn y brifysgol ar waith a chryfhau sgiliau gwaith hanfodol sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Rydym wedi gweld llawer o raddedigion yn symud o Gymru yn y gobaith o gael mwy o gyfleoedd yn y cyfryngau. Mae'n bwysig bod myfyrwyr a graddedigion yng Nghymru yn cymryd sylw o'r gwasanaethau gwych y mae GO Wales yn eu cynnig. Ar ôl y lleoliad gwaith 10 wythnos gwreiddiol, cafodd Kane a minnau wahoddiad i aros gyda thîm MePlan50+ hyd ddiwedd y prosiect.”
“Ar ddiwedd mis Hydref byddwn wedi creu DVD, wedi'i ariannu gan yr UE, sy'n codi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â chyflogaeth i bobl dros eu hanner cant. Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i'r achos hwn, bydd gennym hefyd enghraifft broffesiynol o'n gwaith i greu cyfleoedd i ni ein hunain yn y dyfodol.”
Rhoi nod tudalen gyda: