Rydym yn cynnig y cyfle i chi ennill cymhwyster City and Guilds yn y gweithle yn ystod eich lleoliad. Mae Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol y City and Guilds yn ddyfarniad lefel uwch sy'n galluogi myfyrwyr a graddedigion i fesur eu profiadau a'u datblygiad tra ar leoliad gwaith.
Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod yn ffurfiol ac yn dangos i gyflogwyr y sgiliau trosglwyddadwy a'r wybodaeth rydych chi'n eu hennill ar brofiad gwaith. Mae'n eich cynorthwyo i gymryd rhan egnïol yn eich dysgu a'ch datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.
Manteision i chi:
Rydych chi'n cael cyfarfod cynefino wyneb yn wyneb yn eich gweithle gyda Swyddog Hyfforddi GO Wales er mwyn gallu datblygu rhaglen hyfforddi unigol.
Bydd disgwyl i chi gwblhau'r Dyfarniad gydol y lleoliad drwy gyflwyno darnau amrywiol o waith, gan gynnwys:
Fe'ch anogir wedyn i weithio'n agos â'ch rheolwyr i sicrhau bod y naill ochr a'r llall yn manteisio i'r eithaf ar y lleoliad. Mewn sawl achos, mae cyflogwyr a'r sawl sydd ar y lleoliad wedi gallu gweithio gyda'i gilydd i fonitro perfformiad yn gynnar, sy'n meithrin y berthynas waith ac yn pwysleisio'r safonau sy'n ofynnol yn y sefydliad.
Gyda mwy a mwy o raddedigion yn mynd i mewn i'r farchnad lafur bob blwyddyn, mae cyflogwyr yn gynyddol yn chwilio am fwy na gradd yn unig. Fodd bynnag, nid profiad gwaith o reidrwydd y maent yn chwilio amdano'n unig, ond yn hytrach yr hyn y mae myfyrwyr wedi'i ddysgu o'r profiad. Felly, trwy adfyfyrio am eich lleoliad rydych yn dysgu sgiliau a fydd yn cynyddu eich cyflogadwyedd.
Mae'r cymhwyster City and Guilds yn ei gwneud yn ofynnol i chi ganolbwyntio ar eich amcanion datblygiad personol a phroffesiynol, ac mae pawb sydd wedi cymryd rhan wedi camu ymlaen tuag at eu nod. Bydd hyn yn fanteisiol o ran eich datblygiad personol a gyrfaol, a bydd eich cyflogwr ar ei ennill hefyd gan y byddwch yn gwella'ch gallu fel gweithiwr.
“Syniad gwych, mynd ar leoliad GO Wales tra'n ennill cymhwyster. Roedd dyfarniad Datblygiad Proffesiynol y C&G yn ddefnyddiol iawn i mi yn fy lleoliad gan ei fod yn sicrhau fy mod yn canolbwyntio'n llawn ar gyflawni amcanion penodol yn gyson a chefais fwy o fudd o'r lleoliad 10 wythnos yn sgil hynny. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy'n mynd ar leoliad GO Wales.
“Byddwn yn argymell lleoliadau GO Wales i unrhyw un. Mae'n gyfle rhagorol i gael blas ar swydd ac yn caniatáu i'r sawl sydd ar leoliad gael y profiad i'w roi ar ei CV. Mae llawer o swyddi yn gofyn am brofiad, ac mae lleoliadau GO Wales yn cynnig cyfle i ennill y profiad hwn.”
“Roedd y lleoliad yn gyfle gwych i gael profiad gwaith ar lefel gradd a byddwn yn argymell y cynllun a'r Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol cysylltiedig, i unrhyw un sy'n ei ystyried, yn enwedig os yw'n gysylltiedig â'r radd maen nhw'n ei dilyn neu'r sectorau gyrfa sy'n apelio iddyn nhw.”
“Credaf fod rhoi'r gallu i unrhyw un wella ei sgiliau personol a chael ei gydnabod am ei ymdrech yn syniad da, does ots beth yw ei brofiad blaenorol neu gymhwyster.”
“Mae'n gyfle rhagorol i bawb sydd ar leoliad ennill cymhwyster cydnabyddedig yn sgil y gwaith maen nhw wedi'i gyflawni a'r sgiliau maen nhw wedi'u dysgu ar y lleoliad.”
“Mae'n werth cymryd rhan yn y dyfarniad C&G. Mae'n dangos bod unigolyn yn gallu ymateb yn dda i amgylchedd gwaith newydd gyda'r nod o ennill cymhwyster pellach.”
Rhoi nod tudalen gyda: